Sylw i Fusnes Cymdeithasol Cymru

Chw 28, 2022

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n cael ei gyllido gan ERDF wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn llwyddiant ei raglen Dechrau Newydd gyda 200 o fentrau cymdeithasol wedi’u hymgorffori ers i’r rhaglen ddechrau yn ôl ym mis Tachwedd 2019. Mae’r stori wedi hawlio sylw’r cyfryngau yng Nghymru ac wedi cael ei chynnwys yn Newyddion Busnes Cymru, y Co-op News a’r Western Mail, a gallwch weld yr erthyglau isod.

Darllen yr erthygl Newyddion Busnes Cymru.

Darllen yr erthygl Co-op newydde.

Darllen y datganiad i’r wasg llawn.

Astudiaeth Achos – CBC Your North Veteran Support, Blaenau Gwent

 

Mae CBC YourNorth Veteran Support yn darparu hyfforddiant lles y meddwl effeithiol, cefnogaeth a chyfeirio ar gyfer y gymuned o gyn-filwyr, i wella lles, lleihau unigrwydd, gwella ansawdd bywyd a sefydlu cymuned ddeallus sy’n gwybod sut i gefnogi.

Bu cynnydd cyson mewn atgyfeiriadau cyn-filwyr i elusennau fel SSAFA, Change Step a mwy yn ystod y 5 mlynedd diwethaf – mae SSAFA (Soldiers, Sailors, Airmen and Family Association) yn unig wedi gweld cynnydd o 21% mewn atgyfeiriadau. Mae’r gymuned o gyn-filwyr yn wydn a phur anaml maent yn gofyn am help. Mae’r meddylfryd hwn, ynghyd ag anawsterau ymdoddi i’w cymunedau, yn niweidiol i’w lles meddyliol ac yn effeithio’n negyddol ar berthnasoedd.

Nod CBC YourNorth Veteran Support yw addysgu’r gymuned i rymuso a chefnogi; newid y diwylliant o ddioddef yn dawel, i fod yn agored ac yn hyderus. Mae dau o’r cyfarwyddwyr yn gyn-filwyr. Gadawodd y ddau y Llu Awyr Brenhinol ym mis Mawrth 2020, ar ôl 41 mlynedd o wasanaeth rhyngddynt. Mae gan y ddau gymaint o brofiad yn y maes cyn-filwyr ac maent yn deall ac yn cydymdeimlo â’r buddiolwyr ar lefel bersonol iawn.

Mae CBC YourNorth Veteran Support wedi bod yn gleient i Dechrau Newydd ers mis Medi 2020, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf maent wedi tyfu o hedyn syniad i fod yn CBC corfforedig sy’n mynd ati i gyflwyno gweithdai a chael mynediad at grantiau. Roedd arnynt angen cefnogaeth i ddechrau gyda strwythurau cyfreithiol, corffori, a chyflogi a hyfforddi Cyfarwyddwyr. Yn fwy diweddar maent wedi cael cymorth i baratoi a chyflwyno cais i SE Assist, cyflwyno eu model cyflawni i grŵp o fuddsoddwyr ac ennill grant o £10,000 a buddsoddiad benthyciad o £20,000.

Bu tîm Dechrau Newydd yn cynorthwyo gyda pharatoi’r cais am Grant SE Assist / benthyciad. Cefnogodd y gwaith o baratoi rhagolygon ariannol a’u harwain drwy’r broses gynnig. Sicrhaodd tîm Dechrau Newydd bod gan y busnes yr holl bolisïau a’r prosesau gofynnol yn eu lle ac aseswyd eu risg ariannol, gan gynllunio mesurau lliniaru.

Roedd llawer o’r gefnogaeth yn deillio o’u diffyg hyder a phrofiad o fyd Busnes Cymdeithasol. Cawsant eu harwain drwy’r broses o wneud cais am grant a buddsoddiad benthyciad, y ‘cynnig’ i banel o fuddsoddwyr, yn ogystal â chael cwestiynu eu cyllid, eu cynllun busnes a’u cynnig gan y tîm buddsoddi.

Roedd yr effaith gadarnhaol ar y cleient yn enfawr. Roedd y cais yn llwyddiannus, a mynegwyd pa mor nerfus oedd y broses gyfan wedi eu gwneud. Tyfodd fel busnes cymdeithasol, gan fynd ymlaen i fod yn llwyddiannus wrth wneud cais i Llais Cymunedol Dewis Cymunedol Blaenau Gwent, a chais pellach i’r Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post. Mynychodd un o’r cyfarwyddwyr ddigwyddiad Dechrau Rhywbeth Da BG fel siaradwr gwadd i siarad am eu profiad o sefydlu Busnes Cymdeithasol a’r gefnogaeth oeddent wedi’i chael.