Mae’r Cynllun Ailgychwyn yn flwydd oed

Meh 30, 2022

Mae Cynllun Ailddechrau yr Adran Gwaith a Phensiynau (a wasanaethir gan Serco a’i bartneriaid cyflenwi yng Nghymru) yn cynnig dull cydlynus o ddarparu cyflogadwyedd a chanlyniadau a rennir o fewn y gymuned. Ei nod yw helpu ceiswyr gwaith cymwys i ddychwelyd at lwybr adferiad gyda hyd at 12 mis o gymorth wedi’i deilwra.

Wrth i’r rhaglen ddathlu blwyddyn o gyflawni ym mis Gorffennaf, mae’r Rheolwr Partneriaeth, David Elsmere, yn treulio munud yn myfyrio ar lwyddiannau diweddar ei dîm yn y De-ddwyrain ar gyfer ceiswyr gwaith sy’n wynebu rhwystrau lluosog i waith:

“Rydyn ni’n gwybod bod taith pob ceisiwr gwaith i waith yn wahanol, a dyna pam rydyn ni’n gwella’r ddarpariaeth yn barhaus ar gyfer pob math o bobl. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ag anableddau a chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol sylweddol.

Yn ddiweddar, nodwyd ffordd o gryfhau’r llwybr at waith i bobl ag anghenion iechyd cymhleth. Daeth yn amlwg nad oedd llawer o’r Cynghorwyr Cyflogadwyedd Pobl Anabl (DEAs) yn y Canolfannau Byd Gwaith yn gyfarwydd â’r holl gymorth amrywiol sydd ar gael ac nad ydynt yn cyfeirio pobl oedd angen asesiad cyflogadwyedd anabledd i’r Cynllun Ailddechrau o reidrwydd.

Felly, gyda Rheolwyr Partneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau, aethom ati i ddarparu sesiynau anghenion cymhleth ar gyfer yr holl Gynghorwyr Cyflogadwyedd Pobl Anabl ledled Cymru. Roedd hyn yn hanfodol gan fod Cynghorwyr Cyflogadwyedd Pobl Anabl yn helpu Anogwyr Gwaith i benderfynu pa raglen gymorth sy’n addas ar gyfer ceiswyr gwaith yn eu gofal, ac mae angen i’r ddwy ochr deimlo’n hyderus y bydd y Cynllun Ailddechrau’n darparu’r canlyniad gorau.

Roedd yr adborth o’n sesiynau gwybodaeth Anghenion Cymhleth yn gadarnhaol iawn. Roeddent yn gyfle hefyd i arbenigwyr cyflogadwyedd amlinellu’r cymorth penodol maen nhw’n ei gynnig i geiswyr gwaith sy’n wynebu heriau niferus. Yn sgil y sesiynau hyn, mae fy nhîm yn cyfarfod yn rheolaidd â’r Cynghorwyr Cyflogadwyedd Pobl Ifanc bellach i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y ddarpariaeth gofleidiol sydd ar gael, gan wneud llwybrau atgyfeirio mwy hyderus a symlach i geiswyr gwaith i’r Cynllun Ailddechrau.

Fel ein partneriaeth i wella rhagolygon i’r rhai ag anghenion cymhleth, mae fy nhîm yn awyddus bob amser i gydweithio â sefydliadau lleol a all baratoi pob ceisiwr gwaith gyda’r sgiliau a’r cadernid sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith parhaol – a helpu i adeiladu economi leol ffyniannus drwy hynny.

Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni’n gwahodd eich sefydliad draw i’n cyfarfod ymgysylltu lleol i ddathlu ym mis Gorffennaf. Mae’r cyfarfod yn cynnig lle a chyfle i rai sy’n gwneud penderfyniadau gysylltu â darparwyr gwasanaethau sydd â chysylltiadau cymunedol cryf. Rhan o’n rôl ni fel hwyluswyr yw cysylltu darparwyr gwasanaethau sy’n ceisio gwella canlyniadau cyflogadwyedd ceiswyr gwaith yng Nghymru, gan annog mynychwyr i rannu blaenoriaethau, anghenion a chyfleoedd o fewn y farchnad lafur leol. Anfonwch e-bost ataf, David.Elsmere@serco.com am fanylion.”