Cliciwch lun i lawrlwytho PDF
Rhaglenni hyfforddi statws di-gyflogedig yw Hyfforddeiaethau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt fel arall mewn addysg neu gyflogaeth ôl-16 oed. Prif amcan y rhaglen yw rhoi sgiliau, cymwysterau a phrofiad i bobl ifanc i’w galluogi i symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch neu i gyflogaeth; gan gynnwys Prentisiaeth. Mae’r rhaglen yn rhan o’r gyfres bresennol o ymyriadau gan Lywodraeth Cymru i wella ymgysylltiad, cyflogadwyedd a chynnydd pobl ifanc.
Mae gan Hyfforddeiaethau dair lefel wahanol i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt i ddatblygu: ‘Ymgysylltu’, ‘Lefel 1’ a ‘Lefel 2 – Pont at Waith’.
Mae Hyfforddeiaethau yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i ennill eu swydd gyntaf neu symud ymlaen at hyfforddiant pellach. Maent yn hyblyg iawn, ond maent yn bennaf yn cynnwys; hyfforddiant paratoi ar gyfer gwaith, Saesneg a Mathemateg – i’r rhai hynny sydd eu hangen a phrofiad gwaith o safon uchel.
Gweithredir y prosiect ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a thu hwnt.
Mae Hyfforddeiaethau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed (ond os ydych chi’n 18 oed ac wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, gallwch hefyd ymgeisio), yn byw yng Nghymru, ac nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant. Mae meini prawf cymhwyster ychwanegol yn berthnasol i bob lefel; ‘Ymgysylltu’, ‘Lefel 1’ a ‘Lefel 2 – Pont at Waith’.
Ar gyfer unigolion trwy Gyrfa Cymru 0800 028 4844
Ar gyfer cyflogwyr trwy’r Porth Sgiliau ar gyfer Busnes 03000 6 03000
Business Wales:
Llywodraeth Cymru:
Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt
Blaenau Gwent – Rebecca Phillips
Caerffili – Elizabeth Goodwin
Merthyr Tudful – Leanne Williams
Torfaen – Angela Shirlow