Cyhoeddi Prosbectws Cronfa Ffyniant a Rennir y DU
Dyma nodyn i’ch atgoffa o’r wybodaeth SPF a rannwyd gyda chi yn ein bwletin yn gynharach ym mis Ebrill:
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r Prosbectws llawn a’r dogfennau ategol ar gyfer y Gronfa Ffyniant a Rennir (SPF). Mae’r Prosbectws yn adeiladu ar y cyfarwyddyd cyn-lansio a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022 ac yn rhoi rhagor o fanylion am nodau’r gronfa, y cyllid y bydd llefydd yn ei dderbyn a phroses y cynllun buddsoddi.
Mae’r gronfa’n cefnogi’r amcan lefelu o feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd drwy dair blaenoriaeth buddsoddi:
Yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi’r ddarpariaeth ar draws daearyddiaeth strategol ranbarthol De Ddwyrain Cymru / Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, a De Orllewin Cymru / Bae Abertawe, sy’n cydffinio ag ardaloedd y Fargen Ddinesig a Thwf. Er mwyn cael mynediad at eu dyraniad cyllid, gofynnir i bob lle weithio gyda phartneriaethau lleol i ddarparu canlyniadau mesuradwy sy’n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd lleol, gan nodi eu hymyriadau mewn cynllun buddsoddi i’w gymeradwyo gan Lywodraeth y DU. Bydd angen i awdurdodau lleol arweiniol gyflwyno’r cynlluniau buddsoddi rhwng 30 Mehefin ac 1 Awst 2022.
Mae cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer tair blynedd ariannol – 2022-23, 2023-24 a 2024-25. Rhaid i bob ymyriad ddod i ben erbyn mis Mawrth 2025. Nid oes angen arian cyfatebol ac ni fydd yn rhan o feini prawf asesu’r cynllun buddsoddi, ond anogir awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i ystyried hyn er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian ac effaith.
Mae’r gronfa hefyd yn cynnwys rhaglen rhifedd oedolion newydd gwerth £559 miliwn ar gyfer y DU gyfan, Multiply, a fydd yn cefnogi pobl heb unrhyw sgiliau mathemateg neu lefel isel o sgiliau i ddychwelyd i’r gwaith. Bydd y cynllun yn cynnig tiwtora personol am ddim, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg i wella hyder a sgiliau rhifedd oedolion.
Awdurdodau Unigol | UKSPF Craidd | Multiply | Cyfanswm |
Blaenau Gwent | £23,301,572 | £4,863,920 | £28,165,492 |
Pen-y-bont ar Ogwr | £19,116,296 | £3,990,295 | £23,106,591 |
Caerffili | £28,272,298 | £5,901,499 | £34,173,797 |
Caerdydd | £34,587,594 | £7,219,740 | £41,807,334 |
Merthyr Tudful | £22,698,977 | £4,738,136 | £27,437,113 |
Sir Fynwy | £5,919,533 | £1,235,631 | £7,155,164 |
Casnewydd | £27,177,563 | £5,672,986 | £32,850,549 |
Rhondda Cynon Taf | £37,320,994 | £7,790,305 | £45,111,298 |
Torfaen | £20,431,241 | £4,264,774 | £24,696,014 |
Bro Morgannwg | £11,606,505 | £2,422,717 | £14,029,222 |
Cyfansymiau ar gyfer daearyddiaeth Bargen Ddinesig a Thwf | UKSPF Craidd | Multiply | Cyfanswm |
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd / De Ddwyrain Cymru | £230,432,572 | £48,100,003 | £278,532,575 |
Canolbarth Cymru | £35,081,942 | £7,322,930 | £42,404,872 |
Gogledd Cymru | £104,622,271 | £21,838,629 | £126,460,900 |
De Orllewin Cymru / Bae Abertawe | £113,985,415 | £23,793,072 | £137,778,487 |
Mae Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, wedi rhyddhau datganiad ysgrifenedig ar y cyhoeddiad, yn mynegi pryderon nad yw’r SPF yn bodloni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfateb maint y cronfeydd UE y mae Cymru wedi’u cael yn flaenorol ac y byddai wedi bod yn gymwys ar eu cyfer; ac nad oes digon o ffocws ar y cymunedau mwyaf anghenus.
Gweld nodyn methodoleg dyraniadau SPF y DU ar wefan Llywodraeth y DU.
Prosbectws SPF y DU a dogfennau ategol ar gael ac i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU.
Hefyd gellir gweld y datganiad gan Vaughan Gething AS ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r Fforwm Strategol ar gyfer Buddsoddiad Rhanbarthol, sy’n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru, yn parhau i gyfarfod i drafod y Gronfa, ac mae’r cofnodion a’r papurau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.