Cyllid ReAct – diweddariad pwysig ynglŷn â rheolau cymhwysedd

Meh 25, 2021

Mae’r rheolau cymhwysedd ar gyfer cyllid ReAct wedi newid ychydig. Mae’r rhaglen bellach ar gael ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi cael eu diswyddo neu sydd wedi dod yn ddi-waith yn ystod y 12 mis diwethaf yn lle ar neu ers 1 Ionawr 2020.

Mae’r holl hawliau cymhwysedd a rhaglen eraill yn aros yr un fath.

Darganfyddwch fwy am ReAct.