Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru

Med 30, 2022

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) wedi bod yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid eraill ar ddatblygu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.

Mae’r bwriad Parc Rhanbarthol y Cymoedd yw treialu’r uchelgeisiau o ran cael Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, mewn ardal lle mae’r angen mwyaf am swyddi ac am adfer byd natur. Bydd PRhC yn helpu i archwilio sut y gallai menter o’r fath ychwanegu gwerth a dyfnder at wasanaethau presennol. Bydd hefyd yn egluro dull gweithredu y gellir ei gyflwyno ar raddfa fwy, a allai hybu’r weledigaeth ehangach, sef cael Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.

Argyfwng Natur

Yn 2021, cafodd Argyfwng Natur ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn dibynnu ar ecosystemau iach nid yn unig er mwyn cael bwyd, dŵr ac aer glân ond hefyd er mwyn rheoleiddio hinsawdd y gellir byw ynddi. Mae adfer a gwarchod byd natur yn hybu bioamrywiaeth a’r ecosystemau a all amsugno carbon o’r newydd yn sydyn ac yn rhad. Ac mae adfer byd natur ar raddfa fawr, ar draws rhwydweithiau ecolegol sy’n gydnerth, yn golygu bod ein hamgylchedd sy’n cynnal bywyd yn fwy cydnerth ac yn fwy abl i allu gwrthsefyll y digwyddiadau annisgwyl anochel yr ydym eisoes yn eu gweld yn rhan o hinsawdd sy’n newid.

Yn syml, mae gweithredu er budd natur yn gyfystyr â gweithredu er budd yr hinsawdd.

Mae’r her yn un enfawr, ond byddai adfer byd natur ar y raddfa sy’n ofynnol yn esgor ar ystod o fanteision ehangach. Ystyrir bod creu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru yn un o’r ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r her gan sicrhau’r manteision ehangach hyn ar yr un pryd.

Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru

Nod craidd y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol yw adfer byd natur, gan greu swyddi gwyrdd newydd a sbarduno newid tuag at ddarpariaeth o ran sgiliau gwyrdd yng Nghymru.

Mae cyfraniad Parc Rhanbarthol y Cymoedd i’r cynigion yn ymwneud â’r syniad o ddefnyddio’r Canolfannau Darganfod a safleoedd tebyg i gyflwyno sgiliau’n seiliedig ar natur, cyfleoedd dysgu a chyfleoedd o ran hyfforddiant ar stepen drws cymunedau lleol. Mae’r cynigion yn ceisio helpu i sefydlu sylfaen ystyrlon y gellir adeiladu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol arno, gan helpu ar yr un pryd i wireddu rhai o uchelgeisiau craidd gweledigaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Mae Canolfannau Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn rhwydwaith amlwg iawn a hygyrch iawn o ganolfannau sy’n agos i gymunedau lleol.  Mae 12 Canolfan Ddarganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar eu pen eu hunain yn cael dros 2 filiwn o ymweliadau bob blwyddyn.

Rhaglenni i wirfoddolwyr a rhaglenni addysg amgylcheddol sy’n seiliedig ar natur, ar draws rhwydwaith o safleoedd lleol, fod yn sylfaen ar gyfer hyfforddiant ynghylch sgiliau gwyrdd a llythrennedd ecolegol yn rhan o Wasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.  Byddai dull gweithredu o’r fath yn fodd i droi ein Parciau Gwledig a safleoedd tebyg yn ganolfannau cymunedol hanfodol sy’n cynnig cyfleoedd i ailgysylltu pobl â byd natur a phrosesau naturiol, gan sicrhau ar yr un pryd bod cyfleoedd pendant yn cael eu darparu i ymwneud yn fwy helaeth â sgiliau, hyfforddiant ac addysg.

Gallai darparu swyddi tebyg i swyddi parcmyn cymwys a phrofiadol er mwyn datblygu a chyflwyno’r rhaglenni hyn arwain at elw sylweddol ar fuddsoddiad, a gallai fod yn fodd i gyrraedd llawer o bobl wrth helpu i fynd i’r afael â rhai o achosion sylfaenol yr argyfwng natur. At hynny, gallai fod yn fodd i addasu diben ac adfywio’r rhwydwaith o Barciau Gwledig a Chanolfannau Darganfod er mwyn darparu sylfaen gref i gyflwyno Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, gan greu swyddi newydd a llwybrau newydd o ran cyflogaeth a helpu i wreiddio’r newid mewn diwylliant sy’n ofynnol er mwyn mynd i’r afael â’r her genedliadol sydd o’n blaen.

Os hoffech ymwneud â’r gwaith o greu’r Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, ewch i https://www.gwasanaethnaturcenedlaethol.cymru i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich diddordeb.

Daniel Lock

Cynullydd Tirwedd, Diwylliant a Hunaniaeth, Parc Rhanbarthol y Cymoedd