Cronfa Busnes Cymru: Astudiaeth Achos 1 – Jöttnar

Ion 4, 2018

Jottner

Cafodd Jöttnar, y cwmni dillad technegol awyr agored sydd â phencadlys yng Nghaerdydd, fuddsoddiad saith ffigur gan Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a chan Gronfa Fuddsoddi Ventrex yn Llundain. Sefydlwyd Jöttnar ym 2013 gan y cyn môr-filwyr brenhinol comandos Steve Howarth a Tommy Kelly. Maen nhw wedi arbenigo ym maes rhyfela mynydd mewn tywydd oer iawn, ar ôl cael eu hysbrydoli i ymateb i’r tywydd eithafol a harddwch y dirwedd yn Sgandinafia gyda dillad technegol.

Dechreuodd Jöttnar ar ei bumed flwyddyn o fasnachu gan lansio ei gasgliad gaeaf newydd 23 darn, ar ôl dechrau gyda chwe eitem yn unig. Dywedodd Steve Howarth ei bod wedi cymryd sawl blwyddyn i ddechrau, ond “y ffordd orau o gael boddhad personol a phroffesiynol go iawn fyddai creu busnes o gwmpas y pethau a oedd yn agos at ein calonnau” meddai’r ddau sylfaenydd.

Mae Dirprwy Reolwr Cronfeydd Bethan Cousins wrth ei bodd bod Cronfa Busnes Cymru wedi llwyddo i gefnogi’r busnes, gan fod “Tommy a Steve wedi creu cynnyrch o ansawdd uchel a brand sy’n dod yn boblogaidd gyda’i ragoriaeth yn y farchnad dillad technegol”.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein cefnogi i ehangu yn y blynyddoedd nesaf wrth inni ddatblygu ein dewis o nwyddau a hyrwyddo brand Jöttnar,” meddai Steve. “Rydym wedi bod yn arbennig o falch gyda’r gefnogaeth a gafwyd gan gynghrair y buddsoddwyr a’u gallu i gynnig ateb ariannol hyblyg i ni.”

“Mae gan dîm Jöttnar ddewis gwych o nwyddau yn ogystal â chynllun busnes cadarn ar gyfer twf. Rydym wedi llwyddo i greu cytundeb ecwiti ar eu cyfer nhw, a hefyd gymorth ar lefel bwrdd gweithredol,” esboniodd Uwch Weithredwr Portffolio Leanna Davies. “Mae gan Venrex hanes llwyddiannus yn cefnogi busnesau dillad brand ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Ventrex ar brosiect Jöttnar.”

Darllenwch ragor am Jöttnar yma: https://developmentbank.wales/cy/astudiaethau-achos/jottnar

Yn ôl i Gronfa Busnes Cymru >