Cronfa Busnes Cymru: Astudiaeth achos 2 – W2 Global

Ion 4, 2018

W2 Global

Mae gan W2 Global berthynas dda gyda Banc Datblygu Cymru. Mae W2 Global yn cynnig y gallu i gwsmeriaid wirio hunaniaeth unigolion mewn amser real a gwneud gwiriadau atal gwyngalchu arian ar ddefnyddwyr a busnesau pan fyddant yn agor cyfrif.

Yn gwmni â phortffolio hirsefydlog ers iddo sicrhau ei fuddsoddiad cychwynnol, llwyddodd W2 Global yn ddiweddar i ennill buddsoddiad dilynol ar y cyd gan Gronfa Busnes Cymru a Mercia Fund Management. “Mae W2 wedi mynd o nerth i nerth yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf” meddai Warren Russel, y Cyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd. Mae Cronfa Busnes Cymru wedi gwneud buddsoddiad ecwiti o fwy na £100,000 ac, fel y dywed Warren Russel, roedd hyn yn golygu bod W2 Global “wedi sicrhau safle allweddol yn y maes yn fyd-eang.”

Mae’r buddsoddiad a wnaed yn sgil datblygu menter dechnoleg wedi helpu W2 Global i greu partneriaethau â rhai o ddarparwyr data mwyaf y byd. Mae hyn yn galluogi llwyfannau meddalwedd W2 i gronni data o ystod eang o gyflenwyr er mwyn cynnig i’r cwsmer un pwynt mynediad i lu o ffynonellau data a chyflenwyr gwasanaethau ategol. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael i gwsmeriaid cyffredin a chwsmeriaid corfforaethol mewn marchnadoedd lleol yn y DU ac yn rhyngwladol.

https://developmentbank.wales/cy/astudiaethau-achos/w2-global

 

Yn ôl i Gronfa Busnes Cymru >