Cronfa Busnes Cymru: Astudiaeth Achos 3 – Seren Electrical

Ion 4, 2018

Seren Electrical

Cefnogodd Cronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Rheolwr Gyfarwyddwr Richard Wakeman yn Seren Electrical i gwblhau proses brynu drwy gorff rheoli (MBO) oddi wrth y cyfranddalwyr cyfredol. Mae’r cwmni, a leolir yng Nghaerffili, yn gyfanwerthwr annibynnol sy’n cynnig cyfarpar trydanol o ansawdd uchel i fasnachwyr. Sefydlwyd y busnes yn 2010, ac ar ôl tyfu’n sylweddol, symudodd Seren i safle fwy o faint yn 2015.

“Mae Seren wedi tyfu’n gyson gan ganolbwyntio’n gadarnhaol ac yn barhaus ar y gwasanaeth”, meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr Richard Wakeman. “Mae ein partneriaeth wedi bod yn un llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ein bod ni’n cynnig gwasanaeth cyfeillgar o’r safon uchaf – ni waeth pa mor fawr y mae’r cwmni’n tyfu. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu Seren ymhellach wrth gadw’r ethos sydd wedi ei ganolbwyntio ar y cwsmer.”

Dywedodd y partner sefydlu, Jason Beament: “Rydym yn falch iawn o gwblhau’r trafodiad hwn a chael parhau â’n partneriaeth gyda Richard, a ddatblygodd y busnes yn strategol ac yn strwythurol i gyrraedd y sefyllfa bresennol. Byddwn ni’n parhau i gynorthwyo Richard i sicrhau twf Seren Electrical Supplies.”

“Mae Richard, Andrew a Jason wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau dyfodol y busnes llwyddiannus hwn sy’n dal i dyfu yng Nghymru,” ychwanegodd Bethan. “Roedd yn bleser gweithio gyda Mervyn ac Iridium ar y cytundeb hwn, ac mae gan y ddau enw da haeddiannol fel arbenigwyr ym maes MBO ac fel hwyluswyr busnesau bach a chanolig yma yng Nghymru.”

Darllenwch ragor am Seren Electrical yma: https://developmentbank.wales/cy/astudiaethau-achos/seren-electrical

Yn ôl i Gronfa Busnes Cymru >