Agenda Gwerdd Cymru: Y Prif Weinidog yn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Med 30, 2022

Ar ôl i ystadegau am y newid yn yr hinsawdd gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin eleni, amlinellodd y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf sut y bydd pob un o’r pum Bil a gyflwynir yn ystod ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a chynorthwyo’r amgylchedd.

Dyma’r Biliau:

  • Bil ar Blastigau Untro a fydd yn gwahardd gwerthu eitemau sy’n troi’n sbwriel fel rheol, megis gwellt a chytleri plastig, neu’n cyfyngu ar eu gwerthu
  • Bil Aer Glân er mwyn cyflwyno targedau a rheoliadau uchelgeisiol i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer
  • Bil Amaeth er mwyn diwygio cymorth i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac ar wobrwyo ffermwyr sy’n cymryd camau i ddiogelu’r amgylchedd
  • Bil ar Gydsynio Seilwaith er mwyn symleiddio’r broses ar gyfer cytuno ar brosiectau seilwaith mawr, gan roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr
  • Bil ar Ddiogelwch Tomenni Glo er mwyn gwella’r modd y caiff tomenni glo segur eu rheoli, gan ddiogelu cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hynny, wrth i’r risg o niwed iddynt sy’n gysylltiedig â’r tywydd gynyddu.

Meddai Mark Drakeford AS:

“Rwy’n falch o gyflwyno’r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon sydd â ffocws clir ar ddyfodol Cymru, a fydd yn gryfach, yn decach ac yn fwy gwyrdd. Mae’r argyfwng hinsawdd, heb os, wedi cyrraedd. Byddwn yn cyflwyno pum Bil pwysig a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, gwella ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu, ac atal cymaint o blastig rhag llygru ein tiroedd a’n moroedd hardd.”

Cael gwybod mwy am raglen ddeddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.

Cael gwybod mwy am gynnydd tuag at dargedau 2020 Cymru o ran y newid yn yr hinsawdd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae’n llunio bwletin am y pwnc. I danysgrifio i’r llythyr newyddion, anfonwch ebost i ClimateChangeBulletin@gov.wales