Nodwch fod WEFO wedi comisiynu IFF Research i gynnal ail ran Arolwg Cyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Rhaglen 2014-2020.
Mae IFF Research yn cynnal arolwg gyda sampl o Gyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop sydd wedi cwblhau hyfforddiant neu wedi cael cymorth drwy brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa ac sydd wedi gadael y prosiect o leiaf 6 mis cyn yr arolwg. Bydd IFF yn anfon llythyrau at y sawl sy’n rhan o’r sampl wythnos cyn bod y gwaith maes yn dechrau, er mwyn rhoi gwybod iddynt y byddant yn cael galwad. Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys dolen gyswllt â hysbysiad preifatrwydd yr arolwg ynghyd â chyfeiriad ebost a rhif rhadffôn ar gyfer IFF os bydd gan unrhyw un ymholiadau.
Cychwynnodd y gwaith maes ddechrau mis Awst a bwriedir iddo ddigwydd mewn tair ton:
Gofynnir i’r ymatebwyr beth yr oeddent yn ei wneud cyn cymryd rhan yn y prosiect, beth oedd eu rhesymau dros gymryd rhan yn y prosiect ac a ydynt yn meddwl bod y prosiect wedi bod o fudd iddynt wedyn.
Nodau’r arolwg yw bodloni gofynion y CE o ran cyflwyno adroddiadau, a sicrhau bod WEFO a’n sefydliadau partner yn cael gwybodaeth gadarn er mwyn asesu effeithiolrwydd rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop ledled Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Arolwg Cyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae croeso i chi gysylltu ag emily.rowlands001@gov.wales neu charlotte.guinnee@gov.wales.
Dyma nodyn i atgoffa partneriaid prosiect arweiniol y dylent sicrhau bod tîm cyfathrebu WEFO yn cael gwybodaeth yn gyson am eich cyflawniadau, eich cerrig milltir, eich straeon llwyddiant a’ch cynlluniau ar gyfer digwyddiadau terfynu, er mwyn i aelodau’r tîm eich helpu i gael cymaint o gyhoeddusrwydd ag sy’n bosibl drwy sianelau’r tîm ac er mwyn ystyried cynnwys Gweinidogion.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am yr uchod, dylech gysylltu a thrafod â’ch Swyddog Datblygu Prosiect yn gyntaf.
Mae Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn hwyluso’r broses o gyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i bawb: