Mae AgorIP yn brosiect arloesi unigryw sy’n gweithio i ddod â syniadau a dyfeisiadau yn fyw. Mae AgorIP wedi ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe, a gall helpu buddsoddwyr i wireddu potensial eu syniadau, eu cynnyrch neu eu hymchwil. Mae ein tîm o arbenigwyr yn helpu i fynd ag IP i’r farchnad a’i wneud yn llwyddiant masnachol.
Mae AgorIP ar gael i unrhyw un sydd wedi’i leoli unrhyw le yng ngorllewin Cymru, Gogledd Cymru neu’r Cymoedd.
Mae AgorIP yn darparu Fframwaith Arloesi Agored Mynediad Agored, sydd ar gael i’r byd academaidd, Byrddau Iechyd Prifysgol a chydweithredwyr diwydiannol ledled Cymru. Mae AgorIP yn darparu newid sylweddol yn y gallu a’r cymhwysedd i wireddu gwerth oddi wrth IP yng Nghymru.
Mae AgorIP wedi ei ddatblygu i ddarparu gwasanaeth a fframwaith proffesiynol, integredig a strwythuredig er mwyn masnacheiddio Eiddo Deallusol drwy sianeli Sefydliadau Addysg Uwch sydd eisoes wedi eu profi. Trwy ddefnyddio arbenigwyr mewn eiddo deallusol, datblygu busnes a masnacheiddio, bydd y Fframwaith yn cynnwys Swyddogion Arloesi a gefnogir gan ‘Arweinwyr Masnachol’ (sydd wedi eu caffael ar gyfer cyfleoedd penodol) wrth fynd ag IP rhagddo nes y gwneir elw yn fasnachol.
Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol ar draws ardaloedd y rhaglen yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae cyflawniad y dangosydd yn mynd rhagddo’n dda wrth i’r holl gategorïau fod ar y blaen neu o fewn goddefiad ailbroffilio 2018/03.
Cafwyd dros 300 o ymholiadau a dyraniad o ryw £2.5 miliwn i gefnogi bron i 150 o gyfleoedd.
Mae staff ar secondiad yn eu swydd bellach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Cynlluniau Busnes ar gyfer AgorIP Uwch Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ac AgorIP Dwyrain Cymru yn cael eu datblygu ar y cyd â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.