Cymru Gyfan

Mae pob prosiect a ariennir gan y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn gweithredu o fewn cyd-destun polisïau cenedlaethol a rhanbarthol sy’n dylanwadu ar ble a sut y mae’r cronfeydd yn cael eu neilltuo a’u gwario. Wrth gwrs, mae nifer o bolisïau a mentrau Llywodraeth Cymru a fyddai’n berthnasol, ond y rhai hynny sydd â’r dylanwad mwyaf ar gyllido yw:

  • Y Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd (FfBE)
  • Y Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd
  • Amaethyddiaeth
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Symud Cymru Ymlaen
  • Ffyniant i Bawb
Gallwch gael mwy o wybodaeth isod ac ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd (FfBE)

Yn dilyn argymhelliad allweddol Adroddiad Guildford, yr arolygiad annibynnol o’r trefniadau ar gyfer rhaglenni Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014 – 2020, datblygwyd yr FfBE er mwyn helpu i arwain y defnydd o gronfeydd yr UE. Mae’n cynnwys crynodeb o’r gwahanol fuddsoddiadau a wneir ar draws Cymru i sicrhau bod gweithrediadau a ariennir drwy Gyllid Ewropeaidd yn cael eu datblygu yn y cyd-destun cyllid a pholisi cywir.

Mae WEFO yn edrych ar geisiadau ac yn eu harfarnu yng nghyd-destun ddogfennau amrywiol sy’n cynnwys y Rhaglen ar gyfer Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a’r FfBE. Maen nhw eisiau sicrhau bod partneriaid arweiniol wedi deall bod eu cynlluniau yn rhan o gyd-destun sydd â darlun mwy o ran buddsoddiad yng Nghymru a’r FfBE fydd y canllaw iddynt.

Disgwylir i’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid gan WEFO ddangos sut y byddant yn ychwanegu gwerth at yr hyn sydd eisoes yn digwydd neu wedi’i gynllunio yng Nghymru a’r FfBE fydd y cyfeirnod.  Bydd yn eu helpu i gynllunio eu prosiectau er mwyn osgoi dyblygu gwaith, nodi partneriaid a rhwydweithiau a mireinio eu cynlluniau cyflawni.

Mae elfen ranbarthol i’r FfBE sy’n nodi’r sbardunau a’r cyfleoedd allweddol ledled y pedwar rhanbarth yng Nghymru. Bydd yr adran yn ymwneud â de-ddwyrain Cymru yn hanfodol ar gyfer gweithrediadau sy’n bwriadu cyflawni yn y rhanbarth.

Y cynllun cyflenwi cyflogadwyedd

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella’r cymorth cyflogadwyedd sydd ar gael i bobl Cymru. Mae’r Llywodraeth yn datblygu Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd er mwyn cyflawni’r nod hwn. Ar hyn o bryd mae’r cynllun yn dal i fod ar gam cynnar. Bydd yr adran hon o’r wefan yn cael ei diweddaru maes o law, ond yn y cyfamser, i gael rhagor o wybodaeth am y cynigon, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a gyda’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldeb iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Mae gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol saith Nod Llesiant sy’n darparu gweledigaeth a rennir i gyrff cyhoeddus weithio tuag atynt:

  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Gydnerth
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal
  • Cymru Iachach
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog Lle Mae’r Gymraeg yn Ffynnu
  • Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Symud Cymru Ymlaen: Y Rhaglen Lywodraethu 2016-2021

Mae Symud Cymru Ymlaen yn nodi sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu darparu mwy a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach, gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus, a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

Rhennir camau gweithredu i bedwar maes blaenoriaeth:

  • Ffyniannus a diogel
  • Iach ac egnïol
  • Uchelgais a dysgu
  • Unedig a chysylltiedig

Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol

Mae’r strategaeth hon yn gosod ymrwymiadau allweddol Symud Cymru Ymlaen mewn cyd-destun hirdymor, gan nodi sut y maent yn cyd-fynd â gwaith y gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer sicrhau ffyniant i bawb.

Meysydd blaenoriaeth – y rhai hynny a fydd yn gwneud y cyfraniad posibl mwyaf at ffyniant a llesiant hirdymor:

  • Y Blynyddoedd Cynnar
  • Tai
  • Gofal Cymdeithasol
  • Iechyd Meddwl
  • Sgiliau a Chyflogadwyedd

Gweler y strategaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Polisi Amaethyddol yng Nghymru

Mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yng Nghymru yn cefnogi ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau gwledig. Mae’r gweithgareddau hyn yn hyrwyddo dull cynaliadwy o reoli amaethyddiaeth a’r amgylchedd.

Mae’r polisi yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

  • amaethyddiaeth
  • coedwigaeth, yr amgylchedd a chefn gwlad
  • y gadwyn gyflenwi ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth
  • ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig

Mae dwy ran i’r PAC, sy’n cael eu disgrifio fel ‘Colofnau’.

Colofn 1

Mae Colofn 1 yn darparu taliadau uniongyrchol i ffermwyr rhwng 2015 a 2020. O ganlyniad i gymorth incwm uniongyrchol, mae ffermwyr yn gallu:

  • rheoli eu tir mewn ffordd gynaliadwy sy’n ystyried yr amgylchedd
  • cynnal safonau lles anifeiliaid er mwyn sicrhau bod ffermydd yn gryfach yn yr hirdymor

Colofn 2

Mae Colofn 2 yn cyflwyno Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru sy’n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gefnogi cymunedau a busnesau gwledig, gan sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy.

Mae’r Rhaglen Datblygu Gwledig yn canolbwyntio ar:

  • gystadleurwydd (ar ffermydd a thrwy’r gadwyn gyflenwi)
  • yr amgylchedd (gwaith amaeth-amgylcheddol, coetir, ynni adnewyddadwy)
  • y gymuned (mynediad i wasanaethau a dull gweithredu LEADER). Mae 6 Grŵp Gweithredu Lleol gwledig yn y De-ddwyrain, ac mae dolenni i’w gwefan ar gael yma ynghyd â rhagor o wybodaeth am gyllid gwledig.

Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn gyfeiriad defnyddiol ar gyfer newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau datblygu gwledig. Mae’r uned yn helpu i gysylltu â phobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau eraill ledled Cymru wledig a thu hwnt.

Efallai bydd yn ddefnyddiol i sefydliadau sydd â diddordeb mewn ffrydiau cyllid gwledig gofrestru ar gyfer y cylchlythyr GWLAD, sef e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru i’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn coedwigaeth ac amaethyddiaeth yng Nghymru.