Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Cronfa Tyfu Busnesau Cymru yn cefnogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru yn ariannol i’w galluogi i dyfu a chreu cyfleoedd am swyddi. Mae cymorth ariannol o hyd at £150,000 ar gael yn y Gorllewin a’r Cymoedd, a £125,000 yn Nwyrain Cymru. Mae’n ofynnol cael 40% o arian cyfatebol o’r cyfanswm cost yn y Gorllewin a’r Cymoedd a 50% yn Nwyrain Cymru.

Model Cyflawni

Cyflawnir Cronfa Tyfu Busnesau Cymru drwy fodel arloesol  lle dyfarnir 40% o’r cyllid ar ffurf grant traddodiadol a’r gweddill 60% fel cymorth ariannol ad-daladwy.  Gellir lleihau’r swm ad-daladwy drwy ragori ar y cyraeddiadau neu ar y targedau creu swyddi. Telir yn ôl unrhyw swm o’r cymorth ariannol ad-daladwy sydd ar ôl dros gyfnod o hyd at 5 mlynedd, ar ôl diwedd y prosiect 18 mis, gyda  llog 0%.

Gellir cyflwyno cais ar-lein drwy e-tenderWales. Mae’r broses gais yn cynnwys dau gam, yr holiadur cymhwysedd, a’r Cais am Gymorth Ariannol ar gyfer y rhai sy’n pasio’r holiadur cymhwysedd.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Strwythurau cyfreithiol y sefydliadau cymwys yw:

  • Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant
  • Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO)
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CIC) (gan gynnwys y rhai cyfyngedig drwy gyfranddaliadau)
  • Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus (IPS) ar ffurf Cymdeithas Budd Cymunedol (BenCom)
  • Cwmnïau Cydfuddiannol Ariannol
  • Cwmni Cyfyngedig drwy gyfranddaliadau lle cedwir pob cyfranddaliad gan un o’r uchod (h.y.  is-gwmni busnes cymdeithasol ym mherchnogaeth lwyr Elusen)

Targedau penodol

Creu swyddi o ganlyniad i weithgarwch wedi’i ariannu. Pennir targedau ar sail y lefel o ariannu a ddyfernir ac mae’n cyfateb i £20,000 o gyllid ar gyfer pob swydd a grëir ac a gedwir.

Manylion cyswllt

Enw: Alun Jones
E-bost: sic@wcva.org.uk
Rhif ffôn: 0800 2888 329
Cyfeiriad: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Tŷ Baltic, Mount Stuart Square, Caerdydd, CF10 5FH
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Cynnydd

Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017

Cymeradwywyd deuddeg o brosiectau ac mae sawl prosiect wedi dechrau cyflenwi. Nid oes allbynnau i adrodd arnynt.