Mae Cronfa Busnes Cymru, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, wedi’i seilio ar Gronfa JEREMIE a fuddsoddwyd yn llawn. Mae’n gallu cynnig buddsoddiad i gwmnïau wedi eu lleoli yng Nghymru neu i gwmnïau sy’n barod i symud.
Gall Cronfa Busnes Cymru, sy’n gweithredu am saith mlynedd, ddarparu pecynnau buddsoddi o £50,000 i £2 miliwn i BBaChau mewn amrywiaeth o sectorau. Mae hyn yn ategu ein cynnig cynnyrch cyfan drwy ddarparu buddsoddiadau mwy hyblyg ar gyfer BBaChau ledled Cymru.
Mae’r pecynnau buddsoddi’n cynnwys benthyciadau, mesanîn, Cyfalaf Risg Cam Cynnar a Chyfalaf Risg Cam Pellach. Nod pob buddsoddiad yw sicrhau cyllid ychwanegol i BBaChau drwy fuddsoddi ar y cyd â banciau, rhwydweithiau angylion a chyrff cyllido eraill.
Er bod y Gronfa wedi’i chynllunio i wasanaethu Cymru gyfan, mae pwyslais rhanbarthol mwy ar y Gorllewin a’r Cymoedd fel ‘ardal lai datblygedig’. Gwneir buddsoddiadau drwy ein Rheolwr Cronfeydd mewnol.
Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae cyllid ar gael dim ond i BBaChau sy’n cyflogi hyd at 250 o gyflogeion, ac sydd ag uchafswm trosiant blynyddol hyd at €50 miliwn. Mae’n rhaid i fusnesau fod wedi eu lleoli yng Nghymru neu’n fodlon symud i Gymru.
Nid yw’n bosibl i’r Gronfa wneud buddsoddiad mewn:
Nod Cronfa Busnes Cymru yn cefnogi dros 400 o fusnesau yng Nghymru gyda’r nod o wneud dros hanner y buddsoddiadau hynny yn y Gorllewin a’r Cymoedd. Mae’r buddsoddiadau hyn wedi eu targedu i sicrhau dros £75 miliwn o fuddsoddi preifat ar gyfer BBaChau.
Targedau craidd Cronfa Busnes Cymru yw sicrhau cynnydd o 3,585 mewn cyflogaeth, a chefnogi cyflwyno 25 o gynhyrchion newydd i’r cwmnïau.
Dangosyddion â chost ychwanegol ar gyfer y gronfa yw:
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017
Mae Cronfa Busnes Cymru wedi buddsoddi mewn 63 o fentrau, gyda chyfanswm buddsoddiad o £25.9 miliwn hyd yma. Mae ffynonellau cyllid y sector preifat, i gyfateb i’r cyllid hwn, wedi cyrraedd £69.6 miliwn hyd yma. Hynny yw £2.70 o fuddsoddiad gan y sector preifat ar gyfer pob £1 gan Gronfa Busnes Cymru.
Mae cynnydd o ran swyddi a grëwyd wedi’i fesur flwyddyn ar ôl y cyllido cychwynnol. Gan nad yw’r buddsoddiad wedi cyrraedd y trothwy o 12 mis, ni chasglwyd data ar gyfer creu swyddi, ond mae’r Gronfa wedi diogelu 890 o swyddi hyd yma.