Mae CEMET yn ymgysylltu â BBaChau yn rhanbarth gogledd a gorllewin Cymru a’r Cymoedd er mwyn cynnal prosiectau gwaith ymchwil a datblygu ar y cyd i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Mae gan y rhaglen dîm ymchwilio a datblygu mewnol pwrpasol, sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd technoleg newydd gan gynnwys Realiti Rhithiol, Realiti Estynedig, Realiti Cymysg, Deallusrwydd Artiffisial, Technoleg Gemau Addysgol, Rhyngrwyd Pethau a Blockchain. Cyflawnir pob prosiect drwy ddefnyddio’r fframwaith Scrum, gan ymgorffori trosglwyddiad gwybodaeth dwyffordd yn gyson.
Cam 1. Diagnosteg Busnes
Mae cam cyntaf CEMET yn cynnwys asesiad o bob un o’r cwmnïau a ddatganodd diddordeb yn y rhaglen i sicrhau eu bod yn gymwys, yn gredadwy ac yn gymeradwy a bod eu syniad yn ddichonadwy.
Cam 2. Gwaith Ymchwil a Datblygu ar y cyd
Mae’r broses ymchwilio a datblygu ar y cyd yn dechrau yn ystod ail gam y rhaglen. Cyflawnir pob prosiect ymchwil drwy’r fframwaith Scrum ac mae’n ymgorffori cyfnewid gwybodaeth ddwyffordd rhwng CEMET a’r BBaCh.
Cam 3. Llwybr i’r Farchnad
Mae’r cam olaf yn dod â’r cydweithrediad i ddiweddglo trefnus, gan sicrhau bod y prosesau Ymchwil a Datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a mapio llwybrau wedi eu cwblhau.
Nydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol ar draws ardal gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae CEMET yn ymgymryd â phrosiectau Ymchwil a Datblygu, ar y cyd â diwydiant, gan gefnogi busnesau i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r farchnad neu sy’n newydd i’r cwmni. Ynghyd â’r targedau penodol hyn mae CEMET yn chwilio am gleientiaid sydd yn y sefyllfa i droi’r gwaith ymchwil a datblygu a wneir yn gyfalaf, er mwyn cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.


Mae’r tabl isod yn dangos cynnydd ar gyfer gweithrediad Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (GCC) hyd at ddiwedd Mehefin 2021.
| Targedau cynllun busnes Cronnus GCC hyd at ddiwedd Mehefin 2021 | Danfon cronnus yn GCC hyd at ddiwedd Mehefin 2021 | Amrywiad | |
|---|---|---|---|
| Mentrau sy'n derbyn cefnogaeth anariannol | 76 | 75 | -1 |
| Partneriaid yn cydweithredu mewn prosiectau ymchwil | 76 | 84 | 8 |
| Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r cwmni | 38 | 42 | 4 |
| Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r farchnad | 12 | 12 | - |
| Cyllid cyfatebol buddsoddiad preifat | £389,277 | £449,729.17 | £60,452.17 |
Mae’r tabl isod yn dangos cynnydd ar gyfer gweithrediad Dwyrain Cymru (DC) hyd at ddiwedd Mehefin 2021.
| Targedau cynllun busnes cronnus DC hyd at ddiwedd Mehefin | Danfon cronnus yn DC hyd at ddiwedd Mehefin 2021 | Amrywiad | |
|---|---|---|---|
| Mentrau sy'n derbyn cefnogaeth anariannol | 21 | 23 | 2 |
| Partneriaid yn cydweithredu mewn prosiectau ymchwil | 24 | 26 | 2 |
| Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r cwmni | 12 | 13 | 1 |
| Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r farchnad | 2 | 4 | 2 |
| Cyllid cyfatebol buddsoddiad preifat | £185,816 | £240,921.67 | £55,105.67 |