Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Jöttnar >
W2 Global >
Seren Electrical >

Cronfa Busnes Cymru

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Cronfa Busnes Cymru, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, wedi’i seilio ar Gronfa JEREMIE a fuddsoddwyd yn llawn. Mae’n gallu cynnig buddsoddiad i gwmnïau wedi eu lleoli yng Nghymru neu i gwmnïau sy’n barod i symud.

Gall Cronfa Busnes Cymru, sy’n gweithredu am saith mlynedd, ddarparu pecynnau buddsoddi  o £50,000 i £2 miliwn i BBaChau mewn amrywiaeth o sectorau. Mae hyn yn ategu ein cynnig cynnyrch cyfan drwy ddarparu buddsoddiadau mwy hyblyg ar gyfer BBaChau ledled Cymru.

Model Cyflawni

Mae’r pecynnau buddsoddi’n cynnwys benthyciadau, mesanîn, Cyfalaf Risg Cam Cynnar a Chyfalaf Risg Cam Pellach. Nod pob buddsoddiad yw sicrhau cyllid ychwanegol i BBaChau drwy fuddsoddi ar y cyd â banciau, rhwydweithiau angylion a chyrff cyllido eraill.

Er bod y Gronfa wedi’i chynllunio i wasanaethu Cymru gyfan, mae pwyslais rhanbarthol mwy ar y Gorllewin a’r Cymoedd fel ‘ardal lai datblygedig’. Gwneir buddsoddiadau drwy ein Rheolwr Cronfeydd mewnol.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Mae cyllid ar gael dim ond i BBaChau sy’n cyflogi hyd at 250 o gyflogeion, ac sydd ag uchafswm trosiant blynyddol hyd at €50 miliwn. Mae’n rhaid i fusnesau fod wedi eu lleoli yng Nghymru neu’n fodlon symud i Gymru.

Nid yw’n bosibl i’r Gronfa wneud buddsoddiad mewn:

  • Glo a dur
  • Adeiladu llongau
  • Cynhyrchu arfau a ffrwydron rhyfel
  • Gamblo
  • Tybaco
  • Gweithgareddau yn ymwneud ag anifeiliaid byw at ddibenion arbrofol neu wyddonol
  • Gweithgareddau sy’n achosi effeithiau amgylcheddol nad ydynt yn cael eu lliniaru’n eang na’u digolledu
  • Sectorau a ystyrir i fod yn ddadleuol yn foesegol neu’n foesol
  • Gweithgaredd datblygu eiddo tirol yn unig
  • Gwasanaethau ariannol
  • Gweithgareddau a ddarperir gan Lywodraeth.

Targedau penodol

Nod Cronfa Busnes Cymru yn cefnogi dros 400 o fusnesau yng Nghymru gyda’r nod o wneud dros hanner y buddsoddiadau hynny yn y Gorllewin a’r Cymoedd. Mae’r buddsoddiadau hyn wedi eu targedu i sicrhau dros £75 miliwn o fuddsoddi preifat ar gyfer BBaChau.

Targedau craidd Cronfa Busnes Cymru yw sicrhau cynnydd o 3,585 mewn cyflogaeth, a chefnogi cyflwyno 25 o gynhyrchion newydd i’r cwmnïau.

Dangosyddion â chost ychwanegol ar gyfer y gronfa yw:

  • diogelu 6,655 o swyddi
  • hwyluso 14 o gydweithrediadau gyda sefydliadau ymchwil
  • hwyluso 18 o gynhyrchion newydd i’r farchnad
  • hwyluso 16 o batentau cofrestredig

Manylion cyswllt

Enw: Banc Datblygu Cymru
E-bost: info@developmentbank.wales
Rhif ffôn: 0800 587 4140
Cyfeiriad: Banc Datblygu Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

LinkedIn: Dolen

Cynnydd

Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017

Mae Cronfa Busnes Cymru wedi buddsoddi mewn 63 o fentrau, gyda chyfanswm buddsoddiad o £25.9 miliwn hyd yma. Mae ffynonellau cyllid y sector preifat, i gyfateb i’r cyllid hwn, wedi cyrraedd £69.6 miliwn hyd yma. Hynny yw £2.70 o fuddsoddiad gan y sector preifat ar gyfer pob £1 gan Gronfa Busnes Cymru.

Mae cynnydd o ran swyddi a grëwyd wedi’i fesur flwyddyn ar ôl y cyllido cychwynnol. Gan nad yw’r buddsoddiad wedi cyrraedd y trothwy o 12 mis, ni chasglwyd data ar gyfer creu swyddi, ond mae’r Gronfa wedi diogelu 890 o swyddi hyd yma.