Nod Cenedl Hyblyg 2 yw hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, datblygu gyrfa a gwella sefyllfa menywod yn y gweithlu ar draws pob naw sector blaenoriaeth yng Nghymru â dau sector ychwanegol, Gweinyddu a Manwerthu. Mae hwn yn fenter bwysig gan fod menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y sectorau hyn neu yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi gwneud penderfyniadau.
Drwy gynnig Rhaglen Datblygu Gyrfa i fenywod a chymorth busnes i BBaChau, rydym yn adeiladu Cymru lle gall menywod gyflawni a ffynnu.
Rhaglen Datblygu Gyrfa i Fenywod
Mae’r rhaglen yn cynnwys dysgu sgiliau allweddol sy’n werthfawr i gyflogwyr trwy weithdai a mentora. Bydd unigolion hefyd yn cyflawni cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth achrededig (ILM). Mae’r Rhaglen Datblygu Gyrfa yn cynnwys cymhwyster ILM lefel 2.
Cymorth Busnes
Rydym yn cynnig ymgynghoriaeth busnes bwrpasol dros gyfnod o 12 mis i greu a darparu strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i BBaChau ledled Cymru.
Cynlluniwyd y ddwy raglen i gefnogi 9 sector blaenoriaeth Llywodraeth Cymru:
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch // Adeiladu // Diwydiannau Creadigol // Ynni a’r Amgylchedd // Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol // Bwyd a Ffermio // Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu // Gwyddorau Bywyd // Twristiaeth. Yn ogystal â Gwasanaethau Gweinyddu a Manwerthu/Cyfanwerthu.
Gweithredir y prosiect ar draws pob ardal awdurdodau lleol.
Cynlluniau Datblygu Gyrfa i Fenywod
Cymorth Busnes
Menywod yn cyflawni: cymwysterau a swyddi gwell yn y farchnad lafur
Busnesau yn cyflawni: Strategaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a systemau monitro