Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

AgorIP

Disgrifiad o’r prosiect

Mae AgorIP yn brosiect arloesi unigryw sy’n gweithio i ddod â syniadau a dyfeisiadau yn fyw. Mae AgorIP wedi ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe, a gall helpu buddsoddwyr i wireddu potensial eu syniadau, eu cynnyrch neu eu hymchwil. Mae ein tîm o arbenigwyr yn helpu i fynd ag IP i’r farchnad a’i wneud yn llwyddiant masnachol.

Mae AgorIP ar gael i unrhyw un sydd wedi’i leoli unrhyw le yng ngorllewin Cymru, Gogledd Cymru neu’r Cymoedd.

Model Cyflawni

Mae AgorIP yn darparu Fframwaith Arloesi Agored Mynediad Agored, sydd ar gael i’r byd academaidd, Byrddau Iechyd Prifysgol a chydweithredwyr diwydiannol ledled Cymru. Mae AgorIP yn darparu newid sylweddol yn y gallu a’r cymhwysedd i wireddu gwerth oddi wrth IP yng Nghymru.

Mae AgorIP wedi ei ddatblygu i ddarparu gwasanaeth a fframwaith proffesiynol, integredig a strwythuredig er mwyn masnacheiddio Eiddo Deallusol drwy sianeli Sefydliadau Addysg Uwch sydd eisoes wedi eu profi. Trwy ddefnyddio arbenigwyr mewn eiddo deallusol, datblygu busnes a masnacheiddio, bydd y Fframwaith yn cynnwys Swyddogion Arloesi a gefnogir gan ‘Arweinwyr Masnachol’ (sydd wedi eu caffael ar gyfer cyfleoedd penodol) wrth fynd ag IP rhagddo nes y gwneir elw yn fasnachol.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol ar draws ardaloedd y rhaglen yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Targedau penodol

  • Nifer y patentau a gofrestrir ar gyfer cynhyrchion – 44
  • Mentrau sy’n cael cymorth anariannol – 73
  • Cynyddu cyflogaeth mewn mentrau a gynorthwyir – 75
  • Buddsoddiad preifat sy’n cyfateb â chymorth cyhoeddus mewn prosiectau arloesi neu ymchwil a datblygu – £1 miliwn
  • Nifer y mentrau newydd a gefnogir – 15
  • Nifer y mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r farchnad – 58
  • Nifer y mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r cwmni – 58
  • Nifer y mentrau sy’n cydweithio â sefydliadau ymchwil a gynorthwyir – 25

Manylion cyswllt

Enw: Gemma Parry
E-bost: gemma.m.parry@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 604478
Cyfeiriad: Yr Ysgol Reolaeth, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8EN
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,