Datblygiadau o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Meh 25, 2021

Mae gwefan newydd a gwell Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach yn fyw.  Mae’n siop un stop gynhwysfawr ar gyfer unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’r Fargen Ddinesig, gan weithredu fel hwb ar gyfer diweddariadau ar ei holl brosiectau, hwb buddsoddi sy’n dangos cyfleoedd sydd ar gael ar draws y rhanbarth, cyllid sydd ar gael, a sut yn union i gael mynediad ato. Mae hefyd yn arddangos, gyda chynllun a dyluniad gwell, yr holl newyddion a digwyddiadau diweddaraf, ac mae ganddi archif hawdd ei gyrchu o’r holl bapurau a chyhoeddiadau blaenorol gyda gwybodaeth am bob un o sectorau blaenoriaeth a meysydd ffocws allweddol y rhanbarth.

Ewch i wefan newydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ar y wefan, gwelwch fwy o wybodaeth am y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y Gronfa Her a’r Gronfa Safleoedd Strategol.

Bydd y Gronfa Safleoedd Strategol newydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Cynllun Diwydiannol ac Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer datblygu safleoedd newydd, gan gynnwys safleoedd cyflogaeth, a fydd yn helpu busnesau newydd a phresennol i dyfu a buddsoddi yn y rhanbarth. Bydd y gronfa newydd hon yn bwysig o ran rhoi mynediad i gyllid ar amser hanfodol yn adferiad economaidd y rhanbarth ar ôl COVID-19. Targedir prosiectau sy’n allweddol i’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau economaidd y rhanbarth i gefnogi arloesedd, twf busnesau ac adfywio. Mae cynghorwyr annibynnol arbenigol CBRE wedi’u penodi fel cynghorwyr ar y gronfa. Disgwylir i’r gronfa fod yn weithredol yn y dyfodol agos.

Mae Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach ar agor i fynegiadau o ddiddordeb newydd ac yn ceisio syniadau her gan gyrff y sector cyhoeddus.  Mae’n rhaid i bob prosiect fynd i’r afael ag un neu fwy o’r themâu canlynol:

  • Cyflymu datgarboneiddio
  • Gwella iechyd a llesiant dinasyddion y rhanbarth
  • Cefnogi, gwella a thrawsnewid cymunedau

Mae’r alwad wedi’i thargedu at sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n weithredol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac sy’n dymuno datblygu a chynnal her.  Mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr fod yn ddarostyngedig i reolau cymorth gwladwriaethol (e.e. awdurdodau lleol, byrddau iechyd, gwasanaethau golau glas, adrannau o’r llywodraeth / asiantaethau’r llywodraeth).

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau llawn yw 1 Hydref 2021.

Darganfyddwch fwy am y Gronfa Her a sut i wneud cais