Diwrnod Ewrop 9 Mai 2022

Ebr 28, 2022

Byddwch cystal â nodi na fydd WEFO yn datblygu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol neu gyfathrebu a arweinir yn ganolog i hyrwyddo prosiectau Cronfeydd Strwythurol yr UE ar Ddiwrnod Ewrop.

Er hynny, gan fod y DU yn dal i gymryd rhan yn Rhaglen Cronfeydd Strwythurol bresennol yr UE, mater i sefydliadau sy’n cael cronfeydd yr UE yw penderfynu a ydynt yn dymuno hyrwyddo eu prosiectau wrth nodi Diwrnod Ewrop eleni.

Dylai unrhyw gyhoeddusrwydd ddilyn canllawiau WEFO ar wybodaeth a chyhoeddusrwydd a dylai anelu at ganolbwyntio ar y gwahaniaeth y mae cyllid a phrosiectau yn ei wneud i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Cofiwch hefyd ddefnyddio’r hashnod #CronfaUE wrth bostio trydariadau, lluniau a thystlythyrau.

Yn y blynyddoedd blaenorol, anogwyd sefydliadau i chwifio baner yr UE i ddathlu Diwrnod Ewrop. Hoffai WEFO bwysleisio nad oes rheidrwydd i wneud hyn, a mater i’ch sefydliad yn llwyr ydyw.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag  Uned Gyfathrebu WEFO ar wefo-communications@llyw.cymru.