Mae prosiectau cyflogadwyedd Dwyrain Cymru yn rhagori ar y targedau

Rha 16, 2022

Cyngor Dinas Casnewydd oedd yn arwain y gwaith o gyflwyno’r prosiectau Cyflogadwyedd Awdurdod Lleol a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ledled ardal Dwyrain Cymru ond mae’r gwaith hwnnw bellach wedi dod i ben.

Roedd Ysbrydoli i Weithio yn targedu pobl ifanc 16-24 blwydd oed a oedd heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) ac roedd Taith i Waith yn gweithio i wella cyflogadwyedd pobl 25 oed a throsodd sy’n Economaidd Anweithgar a phobl a fu’n ddi-waith am amser hir ac sy’n wynebu rhwystrau cymhleth at waith. Defnyddiwyd dull gweithredu a oedd yn ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ yn y ddau weithrediad, er mwyn ymgysylltu, cefnogi a galluogi’r cyfranogwyr i ddatblygu nifer o sgiliau, cymwysterau a lleoliadau gwaith ystyrlon a chael yr hyder a’r ysgogiad i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy neu dderbyn addysg bellach.

Gyda bod y cyfnod cyflwyno wedi dod i ben ar ddiwedd mis Medi eleni, mae’n amlwg pa mor llwyddiannus oedd y rhaglen. Dywed Andrew Smailes, rheolwr prosiect y ddau weithrediad:

“Gyda’i gilydd, mae gweithrediad Ysbrydoli i Weithio wedi rhagori ar ei darged ar gyfer cyfranogwyr gwrywaidd (103%); y cyfranogwyr sy’n sicrhau cymhwyster (113%) a’r cyfranogwyr sy’n cael gwaith ar ôl gadael y cynllun (120%).  Yn achos Taith i Waith, mae’r gweithrediad wedi gwneud gwaith gwych o ran cyflawni deilliannau cyflogaeth er gwaetha’r anawsterau a gafwyd yn ystod cyfnod COVID, gan gyflawni 139% o’r targed ar gyfer cyfranogwyr economaidd anweithgar sy’n cael cyflogaeth a 138% o ran y cyfranogwyr a fu’n ddi-waith am gyfnod hir sy’n cael cyflogaeth ar ôl gadael y rhaglen. Mae’r rhain yn ganlyniadau gwych, sy’n tystio i waith caled yr holl dimau cyflwyno ledled y gweithrediad yn ardaloedd y cyd-fuddiolwyr.”

Pan fyddant yn barod, cyhoeddir adroddiadau gwerthuso terfynol rhaglen Ysbrydoli i Weithio a rhaglen Taith i Waith ar dudalennau prosiectau gwefan TYRh De-ddwyrain Cymru.

Dysgu mwy am Siwrne i Waith 2.

Dysgu mwy am Ysbrydoli i Weithio.