Cynlluniau Lleihau Ynni ar gyfer y CCR

Med 17, 2021

Sefydlwyd Bwrdd Llywio Ynni CCR, gan gynrychioli sefydliadau megis Clwstwr Diwydiannol De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r deg awdurdod lleol, yn ogystal â phedwar llif gwaith blaenoriaeth pwysig (Trafnidiaeth, Domestig, Diwydiannol a Masnachol ac Ynni Adnewyddadwy).  Dros yr haf, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Garbon, cynhaliwyd gweithdai i helpu i greu cynllun gweithredu a map cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a fydd, yn y pendraw, yn golygu cyfres o ymyraethau i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i leihau allyriadau o’n system ynni 55% erbyn 2035 ac i fod yn sero net erbyn 2050.

Ym mis Mehefin, cytunodd y Cabinet Rhanbarthol i ymrwymo i’r ymgyrch fyd-eang, Race to Zero, ac ymrwymo i’r Prosiect Datgelu Carbon, sy’n system ddatgelu amgylcheddol fyd-eang sy’n helpu dinasoedd, rhanbarthau a chwmnïau i ddatgelu eu data a’u heffaith amgylcheddol.

Rhoddwyd cymeradwyaeth lawn hefyd ym mis Mehefin i’r CCR ymrwymo i’r Prosiect Datgelu Carbon, sy’n system ddatgelu amgylcheddol fyd-eang sy’n helpu dinasoedd, rhanbarthau a chwmnïau i ddatgelu eu data a’u heffaith amgylcheddol.

Darllenwch am waith ynni CCR