Hoffech chi fod yn arweinydd eithriadol? Mae rhaglen arweinyddiaeth ION wedi’i chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arweinyddiaeth perchnogion, rheolwyr a llunwyr penderfyniad allweddol, â’r nod o gynyddu cynhyrchiant yn y gweithle gan ddatblygu mentrau cynaliadwy a phroffidiol.
Diolch i gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, caiff rhaglenni Arweinyddiaeth ION eu hariannu hyd at 70% ar gyfer busnesau cymwys.
Ewch i wefan arweinyddiaeth ION am ragor o wybodaeth, gan gynnwys rhaglenni sydd ar ddod.