ESF Blaenoriaeth 3: astudiaeth achos Go Wales

Rha 17, 2021

Roedd y myfyriwr yn astudio animeiddio pan ymunodd â Rhaglen GO Wales ym mis Mai 2019. Wedi cael diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), roedd y myfyriwr yn cael anhawster i ryngweithio a chyfathrebu â phobl, yn enwedig mewn lleoliadau ffurfiol. Gallai amgylcheddau swnllyd a phrysur, fel swyddfeydd, gynyddu lefelau straen y myfyriwr. Hefyd, roedd y myfyriwr yn teimlo bod ei nam cymdeithasol yn effeithio ar ei allu i gynllunio’n effeithiol.

Ar ôl i’r myfyriwr ymuno â’r rhaglen, fe wnaeth gwrdd ag ymgynghorydd GO Wales ar sawl achlysur i edrych ar ei feysydd diddordeb a thrafod cyfleoedd profiad gwaith posibl. Fodd bynnag, fe wnaeth dyfodiad pandemig COVID-19 atal yn ddirybudd y cynlluniau profiad gwaith cychwynnol a sicrhawyd ar ei gyfer. Er gwaetha’r anhawster hwn, parhaodd y myfyriwr i ymgysylltu â’r prosiect yn rhithwir drwy gydol y cyfnod clo er mwyn dilyn cyfle profiad gwaith.

Ar ôl llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo, sicrhaodd cynghorydd y myfyriwr gyfle blasu gwaith rhithwir iddo gyda Gŵyl Animeiddio Caerdydd i gwblhau fideo wedi’i animeiddio. Er bod y myfyriwr yn wynebu heriau gyda gweithio rhithwir o ran dod i adnabod pobl o bell, ac felly meithrin perthnasoedd proffesiynol, roedd hefyd yn cyflwyno cyfleoedd iddo drwy gael gwared ar rwystrau a allai fod wedi bodoli pe bai’r cyfle wedi’i leoli’n gorfforol mewn swyddfa. Nid oedd raid i’r myfyriwr boeni am synau uchel annisgwyl, er enghraifft, a allai fod yn anodd iddo ymdopi â hwy mewn amgylchedd anghyfarwydd. Fe wnaeth hefyd alluogi’r myfyriwr i ddatblygu ei sgiliau digidol, cymdeithasol a thîm drwy ddefnyddio mathau eraill o gyfathrebu, fel Zoom, Messenger a G-Mail, i rannu syniadau, derbyn adborth ac anfon a derbyn dogfennau a ffeiliau.

Yn ystod y lleoliad, llwyddodd y myfyriwr i weithio ar y cyd â’r tîm i greu fideo animeiddio byr. Ei bwrpas oedd annog cynulleidfaoedd i lenwi ffurflenni adborth ar ôl digwyddiadau gweithdy. Roedd yn brosiect creadigol, a oedd yn ei alluogi i ddefnyddio ei sgiliau animeiddio yn uniongyrchol.

Datblygodd y myfyriwr sgiliau hanfodol eraill hefyd yn ystod ei gyfle blasu, fel rheoli amser, a hunanadlewyrchu ar ei berfformiad a’i ymddygiad ei hun. Dysgodd y myfyriwr sut i drafod a chyfaddawdu gyda chleientiaid mewn ffordd gadarnhaol a phroffesiynol dros friffiau dylunio a gwahanol syniadau a safbwyntiau, a oedd yn ei hystyried fel her fwyaf ei brofiad gwaith.

“Rwy’n hyderus bod gen i strategaeth ar waith i gynyddu fy mhotensial i’r eithaf ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol”.

Yn dilyn y cyfle rhithwir, roedd hyder y myfyriwr wedi cynyddu, ac roedd yn bwriadu cwblhau ei astudiaethau mewn MDes Animeiddio. Derbyniodd y myfyriwr adborth cadarnhaol gan y cyflogwr hefyd, gan ddweud wrtho y gallai fod cyfleoedd yn y dyfodol iddo wneud gwaith tebyg. Fe wnaeth profiad cadarnhaol y myfyriwr ei helpu i gydnabod bod hon yn yrfa yr hoffai ei dilyn. Fe wnaeth y cyfle ei alluogi i feithrin cysylltiadau a rhwydweithiau yn y diwydiant animeiddio, a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer ei ragolygon cyflogaeth yn y dyfodol.

Darllen mwy am GoWales