Newyddion prosiectau B1 ESF: Siwrne i Waith – astudiaeth achos

Meh 30, 2022

Cafodd Mr W ei ddiswyddo o’i swydd flaenorol oherwydd cyflyrau iechyd parhaus. Oherwydd hyn, a heb syniad lle i droi, cafodd Mr W drafferthion ariannol a phrofi gorbryder difrifol a oedd yn ei atal rhag chwilio am gymorth ychwanegol. Dechreuodd Mr W gysgu ar soffas ffrindiau a theulu, a chafodd hyn effaith bellach ar ei gyflyrau iechyd a’r gwaith yr oedd yn gallu ei wneud.

Ar ôl cysylltu ag un o glybiau swyddi Gwasanaethau i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd, mynegodd Mr W ei bryderon am ei sefyllfa ariannol a’i iechyd. Soniodd y cynghorydd am ein prosiectau cyflogaeth a chymorth mentora 1-2-1. Roedd Mr W braidd yn betrusgar ond penderfynodd gael ei gyfeirio am gymorth ychwanegol. Gan ei fod wedi colli ei swydd a heb gyflwyno unrhyw gais am fudd-dal, byddai Mr W yn gymwys fel rhywun economaidd anweithgar ar gyfer Siwrne i Waith.

Cyn gynted ag y sefydlodd y mentor gysylltiad â Mr W, daeth yn amlwg y byddai’n ddoeth yn ariannol ymchwilio i hawliad PIP (Taliad Annibyniaeth Personol) ar sail cyflyrau iechyd Mr W gan gynnwys: asthma difrifol, problemau parhaus gyda’r cefn sy’n golygu na all sefyll am gyfnodau maith nac eistedd am gyfnodau maith chwaith, a dioddef o iselder a gorbryder. Gyda chymorth y tîm cynghori ariannol, llwyddodd Mr W i gael cymorth i gyflwyno cais am PIP.

Doedd gan Mr W ddim cerdyn adnabod dilys chwaith – roedd ei drwydded yrru wedi dod i ben adeg y pandemig – a gan fod Mr W angen ID ffotograffig i ddechrau swydd, roedd yn gwneud synnwyr i ddefnyddio ein cronfa rwystrau i adnewyddu’r drwydded yrru cyn mynd ati i sicrhau swydd neu wneud cais am hyfforddiant. Gyda chymorth y mentor, aethom i’r swyddfa bost i gwblhau cais a gwneud taliad.

Gyda’r pryderon am gyflyrau iechyd Mr W, roedd yn teimlo ei fod wedi’i gyfyngu o ran y math o waith y gallai ei wneud, ond fe wnaeth y mentor drafod cyrsiau hyfforddi amrywiol a diwydiannau posib y gallai Mr W weithio ynddyn nhw.

Gan ei fod yn byw ar soffas pobl eraill, cyfeiriodd y mentor Mr W at “Opsiynau Tai” hefyd ond ddaeth dim byd o hyn yn anffodus oherwydd yr ofn o orfod mynd i hostel. Penderfynodd Mr W y byddai’n well iddo ddychwelyd at ei rieni wrth inni ganolbwyntio ar ei gyflogaeth a cheisio gwella ei sefyllfa ariannol.

Gan nad oedd Mr W yn gallu defnyddio cyfrifiadur i chwilio am swydd, cyfeiriodd y mentor Mr W at Addysg Oedolion i gymryd rhan mewn cwrs Sgiliau am oes BT – ond roedd angen gliniadur neu lechen arno i ddilyn y cwrs, ac nid oedd ganddo un. Felly, cyfeiriodd y mentor Mr W at y tîm Digidol lle roedden nhw’n gallu rhoi llechen iddo fel y gallai Mr W gwblhau’r cwrs a gwella ei ddefnydd o gyfrifiaduron.

Wrth i Mr W gwblhau’r hyfforddiant, fe wnaeth ei fentor greu CV a llythyr eglurhaol a helpu gyda nifer o geisiadau am swyddi ar-lein. Maes  o law, daeth Mr W yn fwyfwy hyderus wrth wirio e-byst ac anfon atebion sylfaenol cyn symud ymlaen i wneud ceisiadau mwy sylfaenol am swyddi ar ei ben ei hun.

Cysylltodd Mr W â’i fentor i gadarnhau ei fod wedi cael gwahoddiad i gyfweliad. Gan deimlo’n hyderus ond yn bryderus yr un pryd, roedd am gael help i baratoi ar gyfer y cyfweliad ac ymchwilio i’r cwmni a’r gwaith maen nhw’n ei wneud. Trefnodd y mentor gyfarfod â Mr W, argraffwyd gwybodaeth am y cwmni a chynhaliwyd ffug-gyfweliad gyda chwestiynau posibl a allai godi. Cwblhaodd Mr W y ffug-gyfweliad a chynigiodd y mentor dipyn o adborth.

Cwblhaodd Mr W y cyfweliad, atebodd y cwestiynau cystal ag y gallai ac roedd yn onest ac yn agored am ei gyflyrau iechyd. Dywedodd y cyflogwr eu bod yn gefnogol iawn i gyflyrau iechyd pobl, a chynigiwyd y swydd i Mr W.

Derbyniodd Mr W y swydd, gan weithio fel cynorthwyydd cegin. Teimlai fod y rhai wnaeth ei gyfweld yn dangos agwedd gadarnhaol a dealltwriaeth tuag at eu staff, ac roedd yn edrych ymlaen at wella ei ffordd o fyw a’i sefyllfa ariannol.

Mynegodd Mr W ei ddiolch i’r prosiect a’i fentor, ac roedd Mr W, yn hapus iawn gyda’r cyflog, y lleoliad, y dyletswyddau a nifer yr oriau a gynigiwyd.

Darganfod mwy am Siwrne i Waith