Siwrne i Waith – Sylwch fod y prosiect yma nawr ar gau
Disgrifiad o’r prosiect
Nod Siwrne i Waith yw cynyddu cyflogadwyedd pobl 25 oed ac yn hŷn sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith ers amser hir, sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru. Bydd y rhaglen yn targedu’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur, ac nad ydynt yn derbyn cymorth gan raglenni neu fentrau eraill, gan ganolbwyntio ar y rhai hynny nad ydynt yn byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf/Cymunedau am Waith.
Model Cyflawni
Mae Siwrne i Waith yn cynnig:
- Pecyn cymorth cynhwysfawr i’r rhai hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur
- Cymorth i nodi rhwystrau ac asesu anghenion
- Mynediad at ystod o gymwysterau
- Cymorth cyflogaeth gan gynnwys ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld, cyngor ar yrfaoedd a chwilio am swydd
- Cyfleoedd i gael profiad gwaith drwy leoliadau a gwirfoddoli
- Olrhain y pellter a deithiwyd a’r cynnydd tuag at ganlyniadau gweithredol
Cwmpas daearyddol
Mae’r prosiect yn gweithredu mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Gymunedau yn Gyntaf yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy
Meini prawf cymhwyster hanfodol
- Yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith ers amser hir
- Yn 25 oed neu’n hŷn
- Yn byw y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf
Targedau penodol
Economaidd anweithgar
- Ennill cyflogaeth neu hunangyflogaeth
- Ymgymryd â gweithgareddau chwilio am swydd
- Ennill cymhwyster neu dystysgrif sy’n berthnasol i waith
- Cwblhau lleoliad profiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli
Di-waith ers amser hir
- Ennill cyflogaeth neu hunangyflogaeth
- Ennill cymhwyster neu dystysgrif sy’n berthnasol i waith
- Cwblhau lleoliad profiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli
Manylion cyswllt
Enw: Huw Wilkinson
E-bost: huw.wilkinson@newport.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 235408
Cyfeiriad: Plasty Llys Malpas, Malpas, Casnewydd, NP20 6AD.
Cynnydd
Cliciwch i lawrlwytho’r PDF llawn o ystadegau o Gaerdydd (2021)