Fe wnaeth Cymunedau dros Waith fy atgyfeirio at NET, gan fy mod mewn swydd ansicr ac roedd fy rôl bresennol yn dechrau gwneud i mi deimlo’n bryderus a dan straen. Ar ôl gweithio drwy gyfnodau o’r pandemig roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bryd cael newid, ond roeddwn wedi colli hyder ynof fy hun dros y blynyddoedd diwethaf.
Cysylltodd Kay, anogwr cyflogaeth NET, â mi ac roedd hi mor gefnogol a chadarnhaol wrth fy rhoi ar ben ffordd gyda chefnogaeth anhygoel.
Cefais anogaeth ac arweiniad o’r dechrau. Gwelsom hysbyseb am swydd newydd fel cymorth gweinyddol gyda’r ‘Tîm Addysg Oedolion’ a chefais gyfarfod gyda’m hanogwr gwaith i ystyried y rôl, edrych ar y sgiliau gofynnol a chefais bob anogaeth i gredu ynof fy hun eto – y gallwn gael swydd â chyflog gwell a throsglwyddo fy sgiliau i’r rôl newydd hon.
Cawsom gyfarfod wyneb yn wyneb a chefais daflen am y swydd, cyngor ar wneud cais, ac anogaeth i gysylltu â’r Rheolwr Addysg Oedolion i gael sgwrs anffurfiol am y swydd. Dwi mor falch i mi dderbyn y cyngor hwn, rhywbeth a’m sbardunodd i godi’r ffôn a threfnu’r cyfarfod. Roedd y Rheolwr yn garedig iawn, ac roedd hyn wedi fy helpu i deimlo’n llai ofnus ac yn dawelach fy meddwl am unrhyw gyfweliad posib.
Ar ôl gwneud cais, roeddwn wrth fy modd o gael cynnig cyfweliad. Gan weithio gyda’m hanogwr NET, cefais gyfarfodydd cymorth cyn cyfweliad/hyder i drafod cynghorion a thechnegau ac ymarferion dychmygu’r sefyllfa. Fe wnaeth y gefnogaeth hon fy helpu i deimlo’n fwy parod a’m bod yn cael fy nghefnogi – yn hytrach na gorfeddwl am bethau fel dwi’n dueddol o wneud weithiau, ac roeddwn i’n gallu ymarfer yn well ymlaen llaw.
Daeth diwrnod y cyfweliad ac oherwydd fy ngwaith paratoi, roeddwn i’n gallu aros yn bwyllog ac ymlacio er bod 2 gyfwelydd yno. Aeth y cyfweliad yn dda iawn, ac roeddwn i mor hapus wrth allu dweud wrth fy anogwr NET fy mod i wedi llwyddo ac ar fin dechrau fy swydd newydd ym mis Ebrill 2022.
Byddwn yn argymell y prosiect NET i eraill, achos fe gewch chi lawer o gymorth a chefnogaeth, awyrgylch dibynadwy heb unrhyw feirniadaeth, rhywle lle’r oeddwn i’n gallu bod yn agored.
Dwi’n teimlo’n fwy hyderus ac yn deilwng o’r cyfle newydd hwn – ar ôl defnyddio’r dechneg o weld fy hun yn y rôl hon yn unol ag argymhelliad fy anogwr. Mae fy llesiant wedi gwella ar ôl cael sicrwydd fy mod i’n “ddigon da” a dwi’n teimlo’n gyffrous ac yn edrych ymlaen at fy rôl newydd bellach.