Mae pecyn cefnogi gwerth mwy na £227 miliwn i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf wedi cael ei gyhoeddi gan Lesley Griiffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Bydd y cyllid yn cefnogi gwydnwch yr economi wledig a’n hamgylchedd naturiol, gan helpu i adeiladu economi werdd newydd. Bydd y cyllid yn darparu cefnogaeth barhaus ar gyfer camau gweithredu a gyllidwyd yn flaenorol drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE.
Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy fframwaith hyblyg a fydd yn ategu datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ar draws y themâu canlynol:
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gwobrwyo ffermwyr sy’n cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a gwyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Bydd nifer o gynlluniau gwerth cyfanswm o fwy na £100m yn agor ar gyfer ceisiadau yn ystod y misoedd nesaf, gyda chynlluniau pellach i’w lansio yn dilyn ymgysylltu pellach â phartneriaid.