Mae’r prosiect yn defnyddio mannau gwyrdd a gweithgareddau amgylcheddol fel arf ymgysylltu i fodel dilyniant cadarnhaol; yn cyd-fynd â chyfleoedd addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a bancio-amser lleol.
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio’n benodol i gynnig mentrau ataliol/ymyrraeth gynnar sy’n hyrwyddo cyfleoedd ymarferol go iawn i wella lles corfforol a meddyliol, ail-ymgysylltu â gwaith ac adeiladu rhwydweithiau cynaliadwy o gefnogaeth gan gymheiriaid.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy:
Bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at daith adferiad ymarferol, gweithredol a fydd yn caniatáu symudiad dwy-ffordd rhwng model cyflawni wyth haen. Datblyg sgiliau trwy ymagwedd fesul cam at ddatblygiad personol sy’n cydnabod y potensial ar gyfer atglafychiad, blinder, sgîl-effeithiau meddyginiaeth, ffyrdd anhrefnus o fyw a lefelau cyfnewidiol o hyder, hunangred a chymhelliant.
Bydd pob cyfranogwr unigol yn profi diweithdra hirdymor neu anweithgarwch economaidd; yn cael ei waethygu gan gyflyrau iechyd meddwl sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Yn ogystal ag ystod eang o rwystrau rhyng-gysylltiedig i gyfranogiad yn y farchnad lafur agored.
Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg
Pobl dros 25 oed â phroblemau Iechyd Meddwl sy’n economaidd anweithgar neu’n ddi-waith am gyfnod hir gan gynnwys cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio.
Economaidd anweithgar (25 oed a throsodd), heb fod mewn addysg na hyfforddiant, sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth – 200
Di-waith tymor hir (25 oed a throsodd) sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth – 100