Etholiadau Llywodraeth Leol a Chronfeydd Strwythurol

Ebr 28, 2022

Cynhelir etholiadau ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru ar 5 Mai 2022. Cyn hynny, bydd cyfnod cyn-etholiadol ffurfiol ar gyfer Llywodraeth Cymru, a fydd yn dechrau ar 14 Ebrill 2022, yn unol â’r cyfnodau cyn-etholiadol yn Lloegr a’r Alban.

Cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd cyfathrebu neu hyrwyddo, byddem yn argymell y dylai partneriaid / buddiolwyr arweiniol sy’n Awdurdodau Lleol gyfeirio yn y lle cyntaf at eu canllawiau eu hunain ar sut i weithredu yn ystod cyfnod cyn-etholiadol o ran pa weithgareddau a gaiff barhau. Fodd bynnag, mae Tîm Cyfathrebu WEFO yn fodlon iawn darparu unrhyw gyngor ychwanegol ar y materion hyn.

Gweler isod gadarnhad ynghylch gweithrediadau WEFO yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Mae hyn yn berthnasol i brosiectau Cronfeydd Strwythurol yr UE lle y ceir partneriaid / buddiolwyr arweiniol sy’n Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

  • Bydd cyhoeddiadau ynghylch cyllid newydd neu ychwanegol ac unrhyw waith hyrwyddo cysylltiedig yn cael eu hoedi dros dro. Ni fydd y rhai sydd wedi cael cymeradwyaeth ar gyfer cyllid ac nad yw WEFO wedi cyhoeddi’r cyllid hwnnw yn cael eu hyrwyddo yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. O ran y rhai a all gael cymeradwyaeth yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, byddant yn ei chael o dan embargo ac ni ddylent ei hyrwyddo yn ystod y cyfnod hwn.
  • Bydd WEFO yn parhau i ddyrannu cymorth ariannol i weithrediadau ac anfon llythyrau cymeradwyo, llythyrau amrywio, ac yn y blaen. Fodd bynnag, bydd y rhain yn destun embargo. Ni ddylai Tîm Cyfathrebu WEFO a buddiolwyr prosiectau gyhoeddi na thynnu sylw at ddyfarniadau cyllid newydd neu ychwanegol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
  • Tîm Cyfathrebu WEFO – bydd unrhyw weithgareddau rhagweithiol i hyrwyddo’r prosiectau hyn yn cael eu hoedi dros dro.