Newyddion Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Meh 30, 2022

Arolwg Sgiliau

Hoffem eich atgoffa i gyd am yr arolwg Sgiliau a Chyflogaeth y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Mae’r arolwg yn para tan ddiwedd Gorffennaf felly mae digon o amser o hyd i gyfrannu ato.

I’r rhai ohonoch yn y rhanbarth sydd heb ymwneud â Phartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRSP) o’r blaen, dyma un o bedair partneriaeth sgiliau yng Nghymru. Eu nod yw deall y blaenoriaethau sgiliau allweddol sy’n wynebu diwydiannau yn ein rhanbarth. Byddant yn defnyddio gwybodaeth a gesglir drwy’r arolwg hwn, a gwaith ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid y rhanbarth, er mwyn helpu i lywio’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau.

Llenwi’r arolwg sgiliau

Trwy gwblhau’r arolwg hwn, rydych chi’n cyfrannu at Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2022-2025. Mae’r cynllun hwn yn allweddol er mwyn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru pa sgiliau a hyfforddiant sydd eu hangen yn y rhanbarth a lle mae angen dyrannu eu cyllid er mwyn bodloni’r gofynion hyn.

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 10 munud i’w lenwi, ond gallai wneud byd o wahaniaeth i dirwedd sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae croeso i chi ei lenwi’n ddienw, ond byddai cynnwys enw’r busnes/sefydliad lle gofynnir am hynny yn caniatáu dealltwriaeth well o’r cyd-destun a chwmpas daearyddol yr arolwg.

Yn ogystal â’r arolwg sgiliau a chyflogaeth, mae dangosfwrdd canlyniadau arolwg sgiliau cyflogwyr 2022 bellach yn fyw.

Gweld y dangosfwrdd canlyniadau ar gyfer arolwg sgiliau cyflogwyr 2022.

Adroddiad terfynol ar effaith COVID

Fel y soniwyd yng nghylchlythyr mis Ebrill, mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi bod yn casglu gwybodaeth feddal am y farchnad lafur (LMI) er mwyn deall yn well effaith pandemig COVID ar y rhanbarth. Mae’r data wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu gwaith ar lwybr adferiad Covid-19.

Mae’r gwaith adrodd wedi dod i ben a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi cyhoeddi adroddiad cryno terfynol erbyn hyn. Mae’r ddogfen yn cynnwys canfyddiadau allweddol am yr effaith gyffredinol ar fusnesau, lefelau staffio a recriwtio a hyfforddi a datblygu yn ogystal â chrynodebau sector mwy manwl ar gyfer saith sector blaenoriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (deunydd a gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd, adeiladu, creadigol, digidol a thechnoleg alluogi a’r economi sylfaenol ddynol).

Darllen yr adroddiad terfynol ar Covid-19.

I gael rhagor o wybodaeth am yr adroddiadau, e-bostiwch: RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk