Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP)

Ebr 28, 2022

Fel y gwyddoch, mae’r CCRSP wedi’i sefydlu i ddod â phobl at ei gilydd i hyrwyddo penderfyniadau strategol a chydweithredol mewn perthynas â sgiliau ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae cynrychiolwyr o fyd busnes, addysg a hyfforddiant yn ymuno i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector i sicrhau bod y rhanbarth yn y sefyllfa orau i ymateb i’r datblygu angenrheidiol ar sgiliau a thalent. Er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am waith y bartneriaeth a datblygiadau cysylltiedig ar draws y rhanbarth, mae’r RSP wedi datblygu cylchlythyr tymhorol yn ddiweddar.

I danysgrifio i’r cylchlythyr e-bostiwch Caryn.Grimes@newport.gov.uk

Marchnad lafur yfory: swyddi, sgiliau, a’r newid i economi werdd

Mae’r CCRSP wedi bod yn gweithio ar y cyd â Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSPs) eraill, mewn perthynas â’r economi werdd, ac wedi comisiynu Data Cymru i arwain prosiect ymchwil i helpu i nodi’r swyddi gwyrdd sy’n dod i’r amlwg ac asesiad o fylchau sgiliau cysylltiedig.  Mae’r canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod ystod eang o heriau yn ymwneud â’r chwyldro gwyrdd, sy’n cynnwys adroddiadau am ddiffiniadau, cwmpas a blaenoriaethau anghyson.  Mae’r wybodaeth hefyd yn awgrymu bod tua 6,000 o fusnesau a 9,700 o swyddi ar draws y sector carbon isel ac ynni adnewyddadwy ledled Cymru.  Y sectorau diwydiannol sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y newid sgiliau i economi carbon isel yw Adeiladu, Trafnidiaeth a Gweithgynhyrchu sy’n cyfrif am 73% o’r swyddi y mae angen eu hailsgilio.

Mwy o wybodaeth am y prosiect ymchwil sgiliau gwyrdd.

CCRSP yn sail i lwybr at adferiad Covid-19 Llywodraeth Cymru

Mae Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar yr economi a’r agenda sgiliau ers i’r achosion ddechrau tua mis Ionawr 2020. Er mwyn deall yr effaith ar sgiliau yn well, mae’r CCRSP wedi parhau i gysylltu â chyflogwyr allweddol ar draws rhanbarth De Ddwyrain Cymru i sicrhau Gwybodaeth feddal am y Farchnad Lafur (LMI). Defnyddiwyd yr wybodaeth hon wedyn wrth gynghori Llywodraeth Cymru ar flaenoriaethu cyllid sgiliau yn y dyfodol ac fel sail i system sgiliau a arweinir gan alw.  Mae adroddiadau wedi amlinellu effaith Covid-19 ar staffio, recriwtio, y galw am sgiliau a diffyg cyfatebiaeth, hyfforddiant mewnol a dysgu seiliedig ar waith.

Gellir gweld y copi diweddaraf o adroddiad LMI Covid-19 CCRSP ar wefan yr RSP ac mae adroddiad cryno terfynol yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022.

Darllen yr adroddiad LMI Covid-19 CCRSP diweddaraf

Am fwy o wybodaeth am y datblygiad hwn, cysylltwch â: RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk