Arweinir RICE gan y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) a Phrifysgol De Cymru.
Ei nod yw profi sut y gall CO2 a gynhyrchir o brosesau diwydiannol trwm gael ei ddefnyddio’n arloesol i wneud cynhyrchion gwerth uchel a chemegau sy’n bwysig yn ddiwydiannol. Bydd technolegau hefyd yn archwilio cynhyrchu hydrogen gwyrdd y gellir ei ddefnyddio mewn sawl ffordd i leihau ein hôl troed carbon.
Ei nod yw cyflawni newid trawsnewidiol drwy drosi prosesau arloesol er mwyn lleihau allyriadau CO Cymru a’r defnydd o ynni a deunydd crai gan ddiwydiannau trwm.
Bydd y prosiect o fudd i ardal rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, yn y De-orllewin yn bennaf.
Mae datblygiad yr arddangoswyr yn parhau, gyda gwaith gosod ar y safleoedd diwydiant trwm a nodwyd wedi ei gynllunio erbyn diwedd y flwyddyn (2019) er mwyn dechrau’r arddangosiadau a phrofion.
Un o brif elfennau prosiect RICE yw cipio a lledaenu, mewn cyfres o straeon digidol, addewid a chynnydd yr atebion i brosiect RICE wrth iddynt ddatblygu. Ymgymerir â’r pecyn gwaith hwn gan Ganolfan Adrodd Straeon George Ewert Evans ym Mhrifysgol De Cymru. Mae cyfres o fideos wedi eu cynhyrchu ac ychwanegir atynt wrth i’r prosiect ddatblygu. Mae’r fideos yn cynnwys:
Yn ogystal â hyn, comisiynwyd 3 fideo arall a fydd yn canolbwyntio ar CO2, Hydrogen ac Algâu. Byddant yn cael eu ffilmio a’u cynhyrchu wrth i’r prosiect ddatblygu.
Mae ein holl fideos ar gael i’w gweld ar sianel YouTube RICE.
Isod, ceir ciplun o rai delweddau sy’n adlewyrchu’r cynnydd a wneir: