Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos 1

Astudiaeth Achos 2

Astudiaeth Achos 3

Astudieath Achos 4

Astudiaeth Achos 5

Cadw’n Iach yn y Gwaith

Disgrifiad o’r prosiect

Hybu iechyd a lles staff a busnesau bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf.

Dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae Cadw’n Iach yn y Gwaith yn cynnig cymorth i fusnesau micro, bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod pawb a gyflogir yn yr ardal awdurdod lleol yn gallu cael mynediad i wasanaethau cymorth teg ‘mewn gwaith’, sy’n rhoi sylw penodol i anghenion unigolion o ran lles ac i’r gwaith o ddatblygu polisïau cefnogol.

Mae Cadw’n Iach yn y Gwaith yn cynnig dull rhagweithiol ac integredig o weithredu sy’n hybu’r gwaith o atal afiechyd corfforol a meddyliol ac sydd, ar yr un pryd, yn hybu camau i adsefydlu pobl a rheoli anhwylderau hirdymor. Rydym yn darparu cymorth clinigol i wella gallu pobl i weithredu o ddydd i ddydd a rheoli symptomau, er mwyn iddynt allu dychwelyd i’r gwaith neu barhau i weithio.

Rhoi i fusnesau micro, bach a chanolig gymorth ym maes Adnoddau Dynol i ddatblygu polisïau ynghylch absenoldeb ac ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Wrth wneud hynny, nod y prosiect yw gwella amodau cyflogaeth pobl a rhoi i unigolion gymorth gan ystod lawn o arbenigwyr iechyd galwedigaethol.

Model Cyflawni

Busnesau bach a chanolig

  • Cyngor arbenigol ym maes Adnoddau Dynol er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu neu wella polisïau a strategaethau ynghylch lles, cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Cynllun Gweithredu ac Adolygiad y cytunir arnynt er mwyn adnabod a monitro meysydd ar gyfer gwella.
  • Cyngor ym maes Adnoddau Dynol ac Iechyd Galwedigaethol ynghylch rheoli achosion cymhleth o ran iechyd yn y gweithle.
  • Hyfforddiant ynghylch rheoli iechyd a lles meddyliol yn y gweithle.
  • Rhaglenni iechyd yn y gweithle.

Unigolion

  • Y gallu i gysylltu â nyrsys iechyd galwedigaethol er mwyn cael cyngor ynghylch effaith gwaith ar iechyd ac effaith iechyd ar waith.
  • Y gallu i gysylltu â ffisiotherapyddion er mwyn cael cyngor a thriniaeth ar gyfer ystod o gyflyrau cyhyrysgerbydol.
  • Gwasanaeth cwnsela a chymorth therapiwtig ar gyfer unigolion sy’n profi ystod o anhwylderau iechyd meddwl.
  • Yn ogystal â chynnig cymorth un i un, mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig mynediad i weithdai grŵp er mwyn helpu i fynd i’r afael ag ystod o broblemau iechyd a lles.

Rydym yn cynnig sesiynau ymgynghori rhithiol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yng nghymunedau Aberpennar a Glynrhedynog i’r sawl sydd am gael gwasanaeth cwnsela, ac ym Mhontypridd ar gyfer y sawl sydd am gael ffisiotherapi.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect ar waith ledled ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Rhaid bod busnesau:

  • Yn fusnesau bach a chanolig sy’n cyflogi llai na 250 o bobl
  • Wedi’u lleoli yn ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.

Rhaid bod unigolion:

  • Yn hunangyflogedig neu’n cael eu cyflogi gan fusnes bach neu ganolig (sy’n cyflogi llai na 250 o weithwyr)
  • Yn 18 oed neu’n hŷn
  • Yn byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf
  • Yn ystyried bod ganddynt anabledd neu anhwylder iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio: anhwylder corfforol megis problem gyda chymal neu gyhyr, er enghraifft cefn tost; neu anhwylder seicolegol megis problemau cysgu, diffyg hwyl, gorbryder, profedigaeth/colled, ac ati.

Targedau penodol

Bydd busnesau bach a chanolig yn cael cymorth i fabwysiadu neu wella strategaethau ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth a systemau monitro.

Bydd unigolion yn cael cymorth i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb neu’n cael cymorth i barhau i weithio.

Manylion cyswllt

Enw: Alison Smith
E-bost: alison.smith@rctcbc.gov.uk
Rhif ffôn: 01443 827317
Cyfeiriad: Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, CF40 1NY
Gwefan: Website
Facebook: Facebook

Manylion ychwanegol

stayingwellatwork@rctcbc.gov.uk

Cyfryngau cymdeithasol eraill:

Gallwch hefyd gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflenni atgyfeirio ar-lein y mae modd cael gafael arnynt drwy’r codau QR isod.