Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru

Meh 30, 2022

Lansiodd Gweinidog yr Economi y Cynllun newydd ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau: Cymru gryfach, decach a gwyrddach, yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2022. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ymdrechion i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl mewn economi sy’n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb. Mae’n cyd-fynd â’r Rhaglen Lywodraethu ac yn rhoi sicrwydd polisi a buddsoddi ar gyfer y Rhaglen hon o eiddo’r Llywodraeth, gan fraenaru’r tir i ddatblygu nodau tymor hwy sydd yn y Cerrig Milltir Cenedlaethol.

Mae’r cynllun yn nodi 5 maes gweithredu allweddol yn ystod tymor y llywodraeth hon.

  1. Cyflawni’r Warant i Bobl Ifanc, gan ganolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â lefelau addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc anabl, a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.
  2. Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd drwy gefnogi pobl sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddod o hyd i waith – a chanolbwyntio ar wella canlyniadau’r farchnad lafur i bobl anabl, pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod, a’r rhai â sgiliau isel.
  3. Gwaith Iach, Cymru Iach – helpu pobl i aros mewn gwaith ac atal pobl rhag methu dechrau gweithio neu adael gwaith oherwydd cyflwr iechyd.
  4. Gwaith teg i bawb – ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i hyrwyddo gwaith teg er mwyn gwella’r arlwy i weithwyr, annog cyflogwyr i fanteisio ar gronfa dalent fwy amrywiol, cynyddu cyflog ac amodau gwaith hyblyg.
  5. Dysgu am Oes – pwyslais o’r newydd ar leihau’r anghydraddoldebau addysgol a chodi safonau, ehangu cyfranogiad yn y system sgiliau i bobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig, wrth fynd i’r afael â chymwysterau isel a chynyddu symudedd gweithwyr.

Gyda’r newidiadau yn y dirwedd ariannu a’r defnydd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae angen cydweithio er mwyn gwneud y defnydd gorau o bobl ac adnoddau. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio, drwy ei buddsoddiadau a’i blaenoriaethau, y bydd yn helpu partneriaid i gysoni eu gweithgareddau â’r blaenoriaethau hynny, fel bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n cefnogi – yn hytrach na thorri ar draws – blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Dysgu mwy am Gymru Gryfach, Decach a Gwyrddach, y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd