Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos 1

Astudiaeth Achos 2

Siwrne i Waith – Sylwch fod y prosiect yma nawr ar gau

Disgrifiad o’r prosiect

Nod Siwrne i Waith yw cynyddu cyflogadwyedd pobl 25 oed ac yn hŷn sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith ers amser hir, sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru. Bydd y rhaglen yn targedu’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur, ac nad ydynt yn derbyn cymorth gan raglenni neu fentrau eraill, gan ganolbwyntio ar y rhai hynny nad ydynt yn byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf/Cymunedau am Waith.

Model Cyflawni

Mae Siwrne i Waith yn cynnig:

  • Pecyn cymorth cynhwysfawr i’r rhai hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur
  • Cymorth i nodi rhwystrau ac asesu anghenion
  • Mynediad at ystod o gymwysterau
  • Cymorth cyflogaeth gan gynnwys ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld, cyngor ar yrfaoedd a chwilio am swydd
  • Cyfleoedd i gael profiad gwaith drwy leoliadau a gwirfoddoli
  • Olrhain y pellter a deithiwyd a’r cynnydd tuag at ganlyniadau gweithredol

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn gweithredu mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Gymunedau yn Gyntaf yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • Yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith ers amser hir
  • Yn 25 oed neu’n hŷn
  • Yn byw y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf

Targedau penodol

Economaidd anweithgar

  • Ennill cyflogaeth neu hunangyflogaeth
  • Ymgymryd â gweithgareddau chwilio am swydd
  • Ennill cymhwyster neu dystysgrif sy’n berthnasol i waith
  • Cwblhau lleoliad profiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli

Di-waith ers amser hir

  • Ennill cyflogaeth neu hunangyflogaeth
  • Ennill cymhwyster neu dystysgrif sy’n berthnasol i waith
  • Cwblhau lleoliad profiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli

Manylion cyswllt

Enw: Huw Wilkinson
E-bost: huw.wilkinson@newport.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 235408
Cyfeiriad: Plasty Llys Malpas, Malpas, Casnewydd, NP20 6AD.

Cynnydd

Cliciwch i lawrlwytho’r PDF llawn o ystadegau o Gaerdydd (2021)

 
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,