Cafodd Phoebe gymorth gyda llu o sgiliau. Fe’i cyflwynwyd yn araf i gyfarfodydd tîm gan ein bod yn gwybod bod ei hunanhyder yn broblem. Cafodd gymorth gyda sgiliau technoleg, sgiliau cymdeithasol, sgiliau cyfweld, a chafodd amser i fynychu cyfarfodydd gyda’r heddlu a DART (sefydliad cam-drin domestig) i ymdrin â’i phrofiadau cam-drin domestig. Rhoddwyd cymorth un i un i Phoebe cyn cael ei chyflwyno i amgylchedd tîm a’i helpodd i oresgyn ei swildod.
Hefyd, cafodd gymorth gan CAMT gyda materion tai a cheisiadau DAF ac unrhyw gymorth arall oedd ei angen arni er mwyn gwella ei hamgylchiadau.
Er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, anogwyd Phoebe i fynychu cymaint o gyfarfodydd â phosibl er mwyn iddi deimlo bod ganddi gwmni a chefnogaeth bob amser a’i helpu i deimlo’n ddiogel.
Ffynnodd Phoebe dros ei chyfnod o 20 wythnos ar y prosiect AIF. Roedd yn wych ei gweld yn magu hyder a hunangred. Daeth yn aelod dilys o’r tîm Cynhwysiant Gweithredol a gwnaeth gyfraniadau dilys mewn cyfarfodydd ac yn y clwb sgiliau swyddi.
Daeth Phoebe yn gymwys yn yr holl ddyletswyddau a ddisgwylir gan yr aelod cynhwysiant gweithredol, a llwyddodd i serennu yn ei swydd oherwydd bod ganddi brofiadau bywyd anodd a roddodd ar waith. Datblygodd personoliaeth Phoebe hefyd, daeth yn fenyw ifanc wybodus llawn hiwmor a oedd yn aelod dilys a phoblogaidd o’r tîm.
Mae ei sgiliau technoleg, ei gwaith ysgrifenedig, ei gramadeg a’i sillafu wedi gwella ac roedd hi’n gwbl hyderus yn gwneud galwadau ffôn i gleientiaid ac yn sgwrsio â rheolwyr a sefydliadau allanol.
Aeth Phoebe ymlaen i gyflawni ei breuddwyd.
Llwyddodd i sicrhau’r hyn mae’n ei alw’n ‘swydd ei breuddwydion’ fel gweithiwr Cymorth Ieuenctid a Chymunedol.
Mae’n darparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol a chymorth cymunedol i bobl ifanc sy’n agored i niwed, ac wrth ei bodd yn gwneud hynny.
Erbyn hyn mae ganddi ei chartref ei hun ac mae’n teimlo ei bod, drwy’r prosiect, wedi ‘newid ei bywyd’. Hoffai ddiolch o galon i’r prosiect am roi cyfle iddi newid ei byd pan na fyddai neb arall yn gwneud hynny.
Mae CAMT yn falch iawn o Phoebe ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â hi i gael ei hanes diweddaraf.