Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

U@W Final Evaluation Report_Final – English

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos 1

Astudiaeth Achos 2

Astudiaeth Achos 3

Astudiaeth Achos 4

Astudiaeth Achos 5

 

Uwchsgilio@Waith

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Uwchsgilio@Waith yn weithrediad a ariennir ac a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Fe’i cynlluniwyd i wella sgiliau a chynyddu cynhyrchiant yn y gweithle, gan gynnig cyfleoedd i gyflogwr yn Ne-ddwyrain Cymru ennill cymwysterau achrededig ar gyfer eu gweithlu.

Mae hyd at 70% o gyllid ar gael i wella sgiliau gweithwyr yn y gweithle trwy gymwysterau achrededig mewn ystod o bynciau, ar draws pob sector. Gellir cefnogi rhan o gymhwyster neu gymwysterau llawn.

Mae’r gweithrediad yn cynnig ystod eang o gyrsiau achrededig o Lefel Mynediad i Lefel 6. Mae’r cyrsiau yn cynnig ystod o gymwysterau gan gynnwys Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol, ILM, City and Guilds, Edexcel ac ati. Gall cyrsiau fod yn gymwysterau llawn neu’n cyrsiau byrrach, modiwlaidd. Mae’r pynciau yn cynnwys sectorau blaenoriaeth ranbarthol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Adeiladu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lletygarwch ac Arlwyo, Peirianneg, TGCh, Gweinyddu Busnes a Gwasanaeth Cwsmeriaid o Lefel 1 i Lefel 6.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir Uwchsgilio@Waith mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a heb fod yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, o’r ddwy ardal rhaglen:

  • Gorllewin Cymru a’r Cymoedd – Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Torfaen
  • Dwyrain Cymru – Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd, Bro Morgannwg a Phowys

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Mae unrhyw fusnes, mawr neu fach, cyhoeddus neu breifat, elusennau ac unig fasnachwyr sy’n gweithredu yn yr ardaloedd awdurdod lleol hyn yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Targedau penodol

Gwella sgiliau gweithwyr heb unrhyw gymwysterau, neu gymwysterau isel, hyd at Lefel 2 a / neu gynnig sgiliau technegol i’r rhai hynny sydd ar Lefel 3 i 6.

Manylion cyswllt

Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Ardal darpariaeth awdurdodau lleol ac enw cyswllt

Pen-y-bont ar Ogwr – aedwards@bridgend.ac.uk
Blaenau Gwent – matthew.welsher@colegwent.ac.uk
Caerffili – matthew.welsher@colegwent.ac.uk neu amanda.harris@cymoedd.ac.uk
Caerdydd – rgordon@cavc.ac.uk
Merthyr Tudful – j.duggan@merthyr.ac.uk
Sir Fynwy – matthew.welsher@colegwent.ac.uk
Casnewydd – matthew.welsher@colegwent.ac.uk
Powys – joanne.phillips@nptcgroup.ac.uk
Rhondda Cynon Taf – amanda.harris@cymoedd.ac.uk
Torfaen – matthew.welsher@colegwent.ac.uk neu amanda.harris@cymoedd.ac.uk
Bro Morgannwg – rgordon@cavc.ac.uk

Cynnydd