Wythnos Wyddoniaeth Prydain #BSW22

Ebr 28, 2022

Roedd 11eg-20fed Mawrth yn Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2022. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ddathliad deg diwrnod o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sy’n digwydd yn ein cymunedau ac roedd Twitter yn rhan o’r achlysur o ddathlu gyda’r hashnod #BSW22. Dyma gipolwg byr ar rai o’r prosiectau a ariennir gan Gronfeydd Strwythorol gafodd sylw gennym ni yn ein hymgyrch Twitter #BSW22.

Mae STEMCymru EESW yn ffurfio partneriaeth gydag F1 mewn Ysgolion yng Nghymru, cystadleuaeth lle mae myfyrwyr yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu cardiau rasio model F1 wedi’u pweru gan CO2 gan ddefnyddio CAD/CAM, sef systemau dylunio a gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur. Mae’r gystadleuaeth yn ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau STEM a’u defnyddio mewn ffordd ymarferol, llawn dychymyg, gystadleuol a chyffrous. Mae gan dimau llwyddiannus gyfle i gynrychioli Cymru a mynd i’r Rowndiau Terfynol Cenedlaethol a Byd!

Mwy o wybodaeth am STEMCymru

Mae Project METaL (Hyfforddiant Deunyddiau a Gweithgynhyrchu) yn brosiect a gyllidir gan ESF sy’n darparu hyfforddiant uwch drwy gyrsiau byr a chryno gyda’r unig nod o roi sylw i’r prinder sgiliau yn y gweithlu deunyddiau a gweithgynhyrchu, gan helpu yn y pen draw i sicrhau cynaliadwyedd i ddiwydiant Cymru. Mae’r holl gyrsiau ar gael ar-lein, sy’n golygu ei fod yn hygyrch i bawb dderbyn yr hyfforddiant cyffrous a phwysig hwn!

Mwy o wybodaeth am METaL

Mae Canolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau Dynol (IROHMS) Prifysgol Caerdydd yn gweithio gydag academyddion a rhanddeiliaid allanol gan ddefnyddio eu cyfleusterau ymchwil o safon byd. Mae’r cyfleuster hwn yn mabwysiadu’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes gweithgynhyrchu digidol a roboteg, ffactorau dynol a seicoleg wybyddol, cyfrifiadura symudol a chymdeithasol a deallusrwydd artiffisial.

Ymhlith y cyfleusterau cyffrous a ddefnyddir yn IROHMS mae’r llyfrgell efelychu, sy’n canolbwyntio ar sut mae bodau dynol yn rhyngweithio â thechnoleg uwch, o roboteg i realiti rhithwir a deallusrwydd artiffisial. Mae cyfleuster arall, y Labordy Rhyngweithio Robot Dynol (HRI), yn arbenigo mewn ymchwilio i broblemau ymchwil ar y groesffordd rhwng deallusrwydd artiffisial (AI), roboteg a systemau peiriannau dynol.

Mwy o wybodaeth am IROHMS

Gan adeiladu ar y Prosiect Flexis, mae’r Ap Flexis a gyllidir gan ERDF yn mynd â’r ymchwil cydweithredol yn ei flaen i brosiectau masnachol i gyflawni Sero Net, gyda’u gweledigaeth gyfunol o sbarduno twf gwyrdd ac economaidd. Mae’r rhaglen ymchwil a datblygu gwerth £4m yn dod â’r byd academaidd, diwydiant a’r llywodraeth at ei gilydd i ddatblygu technolegau ynni arloesol i gyflawni sero net erbyn 2050. Bydd FlexisApp yn sbarduno datrysiadau sero net drwy ffurfio partneriaethau diwydiannol cadarn, sy’n defnyddio ymchwil ac adnoddau blaengar FLEXIS ym maes systemau ynni i gynhyrchu twf economaidd a gwyrdd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Mwy o wybodaeth am FLEXIS

Edrych ar #BSW22 ar Twitter