Ffilm SE RET yn arddangos yr Arloesedd sydd wedi’i gefnogi gan ERDF

Ebr 28, 2022

Rydym yn falch o ddweud bod ein ffilm nesaf yn dathlu effaith y cronfeydd strwythurol bellach yn barod i’w rhannu gyda chi. Wedi’i chynhyrchu gan Orchard Media, mae’r ffilm fer yn dangos sut mae ERDF wedi cefnogi arloesedd ar draws y Brifddinas-Ranbarth ac yn tynnu sylw at rai o’r ystod eang o brosiectau sy’n cael eu darparu gan ddefnyddio cyllid o Flaenoriaeth 1 ERDF. Y prosiectau sydd wedi’u cynnwys yn y ffilm yw:

CEMET

Mae CEMET yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol er mwyn sefydlu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Mwy o wybodaeth am CEMET yma a darllen am sut mae CEMET wedi helpu i drawsnewid sylwebaeth chwaraeon.

Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Accelerate

Mae’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn bartner i’r rhaglen Accelerate ledled Cymru gwerth £24m ac mae’n cefnogi’r gwaith o drosi syniadau addawol o’r sectorau gwyddor bywyd, iechyd a gofal yng Nghymru yn gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd, gyda’r nod o greu gwerth economaidd hirdymor ochr yn ochr â manteision cymdeithasol ehangach.

Mwy o wybodaeth am y Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Accelerate

Rhaglen Smart

Mae’r Rhaglen Smart yn cynnwys tri phrosiect ar gyfer cefnogi BBaChau gydag ymchwil a datblygu a lefelau gwahanol o angen neu arbenigedd – Arloesedd Smart, Smart Cymru ac Arbenigedd Smart.

Darllen mwy am Arloesedd Smart

Darllen mwy am Smart Cymru

Darllen mwy am Arbenigedd Smart

Y Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae Gweithrediad ICS yn weithrediad 5.5 mlynedd gwerth £32.67miliwn. Bydd cyllid ERDF yn cyfrannu at gostau cyfarpar ac adnoddau ICS ym Mhrifysgol Caerdydd a fydd yn darparu cyswllt rhwng y labordy ymchwil a’r byd masnachol.

Mwy o wybodaeth am Y Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

IROHMS (Canolfan Deallu-srwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau Dynol)

Mae IROHMS yn amgylchedd ymchwil o safon byd sy’n hwyluso ymchwil arloesol mewn gweithgynhyrchu digidol a robotig; ffactorau dynol a seicoleg wybyddol; cyfrifiadura symudol a chymdeithasol a deallusrwydd artiffisial.

Mwy o wybodaeth am IROHMS

Uwchgyfrifiadura Cymru

Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn rhaglen fuddsoddi gwerth £15m sy’n galluogi Cymru i gystadlu’n fyd-eang am brosiectau ymchwil ac arloesi sydd angen mynediad at gyfleusterau uwchgyfrifiadura.

Mwy o wybodaeth am Uwchgyfrifiadura Cymru

Sefydliad AWEN

Mae Sefydliad AWEN yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw gyda phobl hŷn a’r diwydiannau creadigol at ei gilydd i gydgynhyrchu cynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer poblogaeth hŷn sy’n cynyddu.

Mwy o wybodaeth am y Sefydliad Awen

Diolch i Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Llywodraeth Cymru am eu cyfraniadau.

Gwylio’r ffilm.